Page 39 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 39

39
Ffatri’r Dyfodol
Bydd prosiect Ffatri’r Dyfodol yn sefydlu hyb ymchwil academaidd a fydd yn darparu datrysiadau technolegol i fusnesau gweithgynhyrchu. Bydd y prosiect hefyd yn sefydlu pedair ‘lloeren’ ffisegol ym Mhenfro, Caerfyrddin, Castell-nedd a Phort Talbot, pob un yn cysylltu â’r cyfleusterau ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe.
Bydd y cyfleusterau hyn:
• Yn defnyddio cyfarpar o’r math diweddaraf ac yn dwyn ynghyd arbenigwyr o feysydd peirianneg, TG, economeg a rheoli
• Yn gwella ac yn cynyddu’r defnydd o ddata a thechnoleg i ymateb ar unwaith i newidiadau yn y galw. ‘Gweithgynhyrchu Clyfar’ yw’r enw arall ar hyn.
Prosiect Morol Doc Penfro
Bydd prosiect Morol Doc Penfro’n adfywio rhan o Ddoc Penfro er mwyn creu safle penodol a gaiff ei ddefnyddio gan ddatblygwyr ynni morol fel man i ddatblygu eu dyfeisiau o syniadau i gynhyrchion masnachol. Bydd y safle’n caniatáu i ddatblygwyr roi prawf ar ddyfeisiau ynni adnewyddadwy ar y môr, eu cynhyrchu a’u cynnal a’u cadw, a bydd yn cael ei gefnogi gan ddatblygiad:
• Ardal Brofi Ynni Morol (META) – cyfres o fannau ar hyd y ddyfrffordd lle gall datblygwyr roi prawf ar ddyfeisiau ar adeg gynnar yn y broses ddatblygu.
• Parth Arddangos Ynni Tonnau Sir Benfro – safle mawr ar gyfer ynni tonnau ar y môr y gall datblygwyr ei ddefnyddio i roi prawf ar ddyfeisiau mwy datblygedig ar y môr agored.
• Canolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol – i gydgysylltu a rhannu gwybodaeth, adnoddau, profiad a gallu rhwng datblygwyr presennol a rhai’r dyfodol.
Canolfan Ragoriaeth Gwasanaethau’r Genhedlaeth Nesaf
Bydd y prosiect yn cynnwys adeiladu canolfan newydd technoleg Canolfan Ragoriaeth Gwasanaethau Digidol y Genhedlaeth Nesaf ym Maglan. Bydd y Ganolfan yn cynnig amrywiaeth o labordai a swyddfeydd i’r gymuned wyddonol a diwydiant. Trwy wneud hynny bydd y ganolfan yn dwyn ynghyd amrywiaeth o arbenigwyr technegol a masnachol i bontio’r bwlch rhwng ymchwil a chymhwyso syniadau ym maes diwydiant.
Gwyddor Dur
Bydd prosiect Gwyddor Dur:
• Yn creu canolfan lle bydd technolegwyr dur a staff academaidd ac ymchwil yn cydweithio i ddod o hyd i ddatrysiadau i’r problemau mae sector dur y Deyrnas Unedig yn eu hwynebu.
• Yn datblygu ffyrdd arloesol i’r diwydiant dur ddefnyddio cynhyrchion gwastraff lleol i greu cynhyrchion dur carbon bositif a ffynonellau amgen o ynni y gellid eu defnyddio yn ystod y broses cynhyrchu dur.
Seilwaith Digidol
Bydd y prosiect yn cynnwys gwelliannau llinell sefydlog wedi’u targedu i ehangu ar y ddarpariaeth galluogrwyddau band eang gwibgyswllt sefydlog, 4G a WiFi i fod o fudd i ardaloedd gwledig a threfol y rhanbarth, yn ogystal â sefydlu Mannau Profi Rhyngrwyd â Thema i gefnogi arloesedd â chysylltedd symudol 5G.
Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer
Bydd y prosiect yn creu diwydiant newydd yn y rhanbarth, a fydd yn datblygu ac yn adeiladu technolegau ynni arloesol. Caiff y technolegau hyn eu rhoi ar waith mewn cartrefi newydd a rhai sy’n bodoli eisoes yn y rhanbarth a byddant yn caniatáu i’r cartrefi gynhyrchu, storio a defnyddio eu hynni eu hunain. Bydd hyn yn gwneud y cartrefi’n fwy ynni effeithlon ac yn lleihau costau ynni.
Bydd y prosiect hefyd yn canolbwyntio ar dechnolegau clyfar mewn perthynas â rheoli’r galw am ynni (h.y. mewnforio o’r grid ac allforio iddo mewn perthynas â’r galw am ynni, adeiladu cyfleusterau ynni adnewyddadwy integredig a storio ynni) mewn tai newydd ac wrth ôl-osod. Bydd prosiect arfaethedig Canolfan Ragoriaeth Gwasanaethau Digidol y Genhedlaeth Nesaf yn darparu galluogrwydd dadansoddi data i gefnogi elfennau iechyd clyfar y prosiect.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Prosiectau Dyheadol a Seilwaith Allweddol


































































































   37   38   39   40   41