Page 41 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 41

41
Pan fydd y prosiect yn gwbl weithredol, bydd yn creu mwy na 100 o swyddi yn y diwydiant amaeth-dechnegol a meysydd cysylltiedig, gan greu galw am sgiliau gwyddonol lefel uwch.
VetHub125
Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn arwain y gwaith o ddatblygu prosiect VetHub1 gwerth £3 miliwn – cyfleuster cyfoes o’r math diweddaraf â’r holl gyfarpar i hybu a diogelu iechyd anifeiliaid a phobl a chefnogi diwydiannau iechyd anifeiliaid, milfeddygol, biotechnoleg a rhai cysylltiedig. Bydd yr hyb yn cynnwys labordy Categori 3 unigryw, yn ogystal ag amrywiaeth o brofion newydd eraill a gwaith datblygu cynhyrchion cysylltiedig ar gyfer clefydau anifeiliaid sy’n dod i’r amlwg yn y sector da byw yn awr.
Bydd y prosiect yn cryfhau mas critigol ymhellach yn ardal Tyfu Canolbarth Cymru yn sectorau blaenoriaethol Iechyd Anifeiliaid a Gwyddor Milfeddygol.
4.3 Cefnogaeth i Fargeinion Dinesig/Twf
Bargen Ddinesig Bae Abertawe26
Y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol yw’r corff arweiniol ar gyfer un o’r un ar ddeg prosiect a nodwyd yng nghynnig Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae’r Ymyriad Sgiliau a Thalent yn brosiect trosfwaol a fydd yn pennu anghenion sgiliau’r deg prosiect arall ac yn creu cyflenwad o unigolion medrus a thalentog. Gan alinio â phedwar llinyn allweddol y Fargen h.y. Rhyngrwyd Cyflymu’r Economi; Ynni; Gwyddorau Bywyd a Llesiant, a Gweithgynhyrchu Clyfar, bydd yr Ymyriad yn datblygu gweithlu addas i’r diben i gefnogi twf y bedair thema, ac yn ei dro’n gwella cystadleurwydd y rhanbarth yn y dyfodol.
I ddechrau, mae’r ymyriad hwn yn brosiect ymchwil desg i ganfod y sgiliau sydd ar gael yn Ninas Ranbarth Bae Abertawe. Bydd hyn yn sail i’r gwaith o gyflawni’r brif ymchwil gyda’r 10 prosiect arall er mwyn canfod eu hanghenion penodol o ran sgiliau ac yn eu tro, unrhyw fylchau sydd. Bydd canfyddiadau’r ymchwil yn penderfynu’r newidiadau neu ddatblygiadau y mae eu hangen i’r arlwy addysg yn y rhanbarth. Efallai y bydd angen newid y cyrsiau a fframweithiau presennol, neu fel arall, datblygu cyrsiau a fframweithiau hollol newydd er mwyn diwallu anghenion diwydiannau.
Bargen Tyfu Canolbarth Cymru
Sefydlwyd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn 2015 i ysgogi llesiant economaidd y rhanbarth. I’r perwyl hwn, yn fwyaf diweddar mae ymgynghorwyr allanol wedi cael eu penodi gan y Bartneriaeth i ddatblygu Cynllun Datblygu Economaidd Rhanbarthol ar sail tystiolaeth gadarn. Bydd y blaenoriaethau strategol a nodir yn y cynllun datblygu’n llywio’r gwaith o ddatblygu bargen dwf i’r rhanbarth. Mae trafodaethau cychwynnol wedi nodi meysydd posibl i ganolbwyntio arnynt o ran ymyriadau, gan gynnwys:
• Busnes yn y 21ain ganrif,
• Pwerdy Gwledig, • Twristiaeth,
• Amddiffyn a Diogelwch.
Mae’r Bartneriaeth yn croesawu datblygiad y cynllun hwn ac wedi mynd at i gyfrannu at weithgareddau ymgynghori er mwyn darparu gwybodaeth i’r sylfaen dystiolaeth. Y gobaith yw y bydd y cynllun hwn yn rhoi cyfeiriad clir i’r Bartneriaeth y gellir ei adlewyrchu mewn unrhyw argymhellion a wneir mewn fersiynau o'r Adroddiad Blynyddol hwn yn y dyfodol. Mae hyn yn berthnasol nid yn unig i’r ddarpariaeth ond hefyd i weithgareddau ehangach y bydd y Bartneriaeth o bosibl yn dewis eu cyflawni yn y gobaith o wella llesiant economaidd y rhanbarth.
25 https://www.aber.ac.uk/en/news/archive/2017/07/title-204457-en.html 26 http://www.swanseabaycitydeal.wales/
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Prosiectau Dyheadol a Seilwaith Allweddol


































































































   39   40   41   42   43