Page 5 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 5

5
Crynodeb Gweithredol
Mae’r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau hwn wedi cael ei ddatblygu gyda’r nod o lywio a chefnogi dull strategol Llywodraeth Cymru o gyflawni darpariaeth cyflogaeth a sgiliau.
Mae’r cynllun hwn, a ddatblygwyd gan y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru, yn ei osod ei hun yng nghanol polisi sgiliau Llywodraeth Cymru, gan weithio i gefnogi’r gwaith o gyflawni amgylchedd dysgu ôl-16 sy’n addas i’r diben.
Er bod y cynllun yn gwneud argymhellion sy’n benodol i bolisi sgiliau Llywodraeth Cymru a grybwyllwyd uchod, mae’n hollbwysig i’r Bartneriaeth bod rhannau pwysig eraill o amgylchedd yr economi a dysgu’n cael eu hystyried. Mae’r rhain yn cynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i); ysgolion uwchradd, cyngor a chyfarwyddyd ar yrfaoedd, cynlluniau rhannu prentisiaeth a sgiliau sylfaenol. Caiff y rhain eu hadlewyrchu trwy’r pum amcan dyheadol a fydd yn gyrru gweithgareddau’r Bartneriaeth dros y tair blynedd nesaf.
Mae’r Bartneriaeth wedi ymgysylltu’n helaeth â chyflogwyr er mwyn llywio elfen galw’r cynllun hwn. Mae mwy na 510 o fusnesau o bob rhan o’r rhanbarth wedi cymryd rhan yn y broses trwy arolygon, cyfweliadau, mynychu grwpiau clwstwr neu rwydweithio.
Mae’r grwpiau clwstwr a grybwyllwyd uchod wedi chwarae, a byddant yn parhau i chwarae, rhan ganolog yn y gwaith o ganfod blaenoriaethau diwydiannau yn y rhanbarth. Rhoddir cynlluniau ar waith i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau hyn trwy weithio partneriaethol effeithiol gyda’r Bartneriaeth a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Amcanion dyheadol
Mae’r bartneriaeth wedi nodi nifer o amcanion dyheadol sy’n cynnig gweledigaeth hirdymor i’r rhanbarth. Byddir yn mynd i’r afael â’r amcanion dyheadol hyn trwy weithgareddau’r Bartneriaeth a’i phartneriaid ehangach a byddant yn cael eu hadolygu a’u mesur bob blwyddyn.
1. Creu amgylchedd dysgu ôl-16 sy’n diwallu anghenion diwydiannau a dysgwyr ac ar yr un pryd yn cynorthwyo darparwyr i gyflawni’r newidiadau angenrheidiol.
2. Gwella’r ffordd y caiff cyfleoedd prentisiaethau eu datblygu a’u cyflenwi ar draws y rhanbarth er mwyn sicrhau y caiff pawb gyfle i ennill sgiliau newydd neu ail-sgilio, waeth beth fo ei amgylchiadau personol.
3. Sicrhau bod mwy o barch cydradd rhwng gwahanol lwybrau dysgu ac y gall dysgwyr gael cyngor a chyfarwyddyd sy’n gynrychiadol i’r perwyl hwn
4. Bod yn ymatebol fel rhanbarth i newidiadau mewn amgylchiadau yn nhermau’r sgiliau mae eu hangen i sicrhau y gall y bobl sy’n byw, gweithio a gweithredu yn y rhanbarth fanteisio’n llawn ar bob cyfle.
5. Ymchwilio i, a phan fo’n briodol defnyddio’n llawn, yr holl ddewisiadau sydd ar gael o ran darparu addysgu a dysgu; gan gynnwys cynlluniau rhannu prentisiaeth, canolfannau rhagoriaeth, dysgu modiwlaidd ac e-ddysgu.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Crynodeb Gweithredol


































































































   3   4   5   6   7