Page 7 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 7

Canolbarth Cymru
Sicrhau bod yr ymyriadau sydd wedi’u datblygu a’r argymhellion sydd wedi’u gwneud gan y Bartneriaeth wedi’u halinio ag anghenion rhanbarth y Canolbarth yn y dyfodol. Bydd y Cynllun Datblygiad Economaidd a Bargen Twf Tyfu Canolbarth Cymru yn llywio hyn.
Casgliadau ac argymhellion
Deuir i’r casgliadau canlynol a gwneir yr argymhellion canlynol yn nhri maes allweddol cyflogadwyedd, dewisiadau dysgu a gyrfa a chyfleoedd a darpariaeth. Nid ydynt yn benodol i sectorau o ran eu natur ac felly maent yn berthnasol ar draws yr economi, er bod rhai’n fwy perthnasol na’i gilydd i rai sectorau penodol.
Cyflogadwyedd
Mae parodrwydd gweithwyr newydd am waith yn her ac mae llawer o fusnesau’n sôn am ddiffyg profiad gwaith ac agweddau gwael a diffyg ysgogiad ymysg gweithwyr newydd.
Mae sgiliau sylfaenol o ran rhifedd, llythrennedd a sgiliau digidol yn broblem i lawer o fusnesau waeth beth fo’r sector.
1. Gwella gweithio partneriaethol er mwyn mynd i’r afael â’r problemau o ran cyflogadwyedd unigolion, gan alinio’r gweithgarwch hwn â Rhaglen Cyflogadwyedd Cymru Gyfan.
2. Ymgysylltu ag ysgolion, awdurdodau lleol a darparwyr i hyrwyddo’r angen am sgiliau sylfaenol ac i dynnu sylw at bryderon diwydiannau.
3. Cynorthwyo rhanddeiliaid i leihau lefelau anweithgarwch economaidd ymysg grwpiau dan anfantais gan gynnwys pobl ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor.
Dewisiadau Dysgu a Gyrfa
Mae dirnadaethau am sectorau’n dal i fod yn broblem gyffredin. Mae hyn yn gwaethygu’r heriau o ran recriwtio a wynebir gan ddarparwyr a chyflogwyr.
7
4.
5.
6.
Ymgysylltu mwy ag ysgolion a dylanwadwyr i hyrwyddo sectorau y mae dirnadaeth wael amdanynt.
Cydweithio’n agos â darparwyr i ddatblygu ymyriadau wedi’u targedu a all gynorthwyo â recriwtio i ddarpariaeth gysylltiedig â’r sectorau blaenoriaethau a nodir yn yr adroddiad blynyddol hwn.
Gwella’r ddealltwriaeth o’r cyfleoedd a gynigir gan brentisiaethau ar draws y rhanbarth a datblygu gwaith hyrwyddo wedi’i dargedu gyda chyflogwyr, dysgwyr ar bob lefel a dylanwadwyr er mwyn sicrhau y deellir y cyfleoedd.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Crynodeb Gweithredol


































































































   5   6   7   8   9