Page 6 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 6
6
Blaenoriaethau Diwydiannau
Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch ac Ynni
Cynyddu nifer y llwybrau dysgu STEM ar bob lefel (e.e. Gradd-brentisiaethau mewn Gweithgynhyrchu, Peirianneg, Ynni, Gwyddor Deunyddiau; Prentisiaethau Uwch mewn Technegau Gwella Busnes), gan gynnwys gwella sgiliau sylfaenol ac ehangu’r defnydd o brentisiaethau i hybu gyrfaoedd mewn peirianneg a STEM.
Adeiladu
Mae angen i ddarparwyr a diwydiannau fel ei gilydd fod yn ymatebol i’r newidiadau yn yr anghenion yn y sector adeiladu. Mae hyn yn golygu meithrin perthnasoedd agosach rhwng diwydiannau, ysgolion a darparwyr er mwyn diwallu anghenion o ran mwy o brofiad gwaith a mentora i ddysgwyr, aml-sgilio unigolion trwy flwyddyn sylfaen (fydd yn cynnwys elfennau o’r holl grefftau allweddol) a manteisio’n llawn ar brentisiaethau fel llwybr dysgu hyfyw.
Diwydiannau Creadigol
Sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion sector y Diwydiannau Creadigol sy’n datblygu ac yn symud yn gyflym. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y darperir yn briodol ar gyfer elfennau digidol arbenigol y sector fel y nodir yn y flaenoriaeth ar gyfer y sector TGCh isod.
Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol a TGCh
Mae angen i berthynas weithio agosach gael ei meithrin rhwng y diwydiant a darparwyr er mwyn sicrhau bod cynnwys cyrsiau a mecanweithiau cyflenwi’n diwallu anghenion cyflogwyr. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i TGCh a darpariaeth ddigidol lle mae angen adlewyrchu cyflymder datblygiadau yn briodol yn y ddarpariaeth.
Bwyd a Ffermio
Sicrhau priodoldeb y cymwysterau yn y sector, gan gynnwys fframweithiau prentisiaeth, er mwyn iddynt fod yn addas i’r diben o ran cynnwys a mecanweithiau cyflenwi.
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae ar y sector angen cymorth ar gyfer hyfforddiant staff er mwyn sicrhau cymhwysedd i gofrestru. Byddai ymgyrch wedi’i thargedu i hyfforddi’r gweithwyr trwy raglen wedi’i hariannu’n rhoi hwb i’r sector a diogelu ei ddyfodol er mwyn iddo ateb y galw am ofal a chymorth yn y cartref.
Hamdden, Twristiaeth a Manwerthu
Mae’r ddirnadaeth gamsyniol o’r sector sydd gan ddysgwyr a dylanwadwyr yn broblem allweddol i’r sector ac yn cael effaith ddifrifol ar gyfraddau recriwtio a chadw. Dylid datblygu a darparu ymyriadau wedi’u targedu mewn ysgolion i ddileu’r cysylltiadau negyddol sydd ynghlwm wrth y sector. At hynny, dylai darparwyr a’r diwydiant gydweithio i ddatblygu hyfforddiant addas i’r diben sy’n ddyheadol ac yn cynrychioli gwir natur gweithgareddau helaeth y sector.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Crynodeb Gweithredol