Page 12 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 12

10
1.1 Pwrpas
Datblygwyd y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau hwn ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2017 gyda'r bwriad o roi gwybodaeth a chefnogi dull strategol Llywodraeth Cymru (LlC) o ddarparu cyflogaeth a sgiliau.
Fel un o dair Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol (PSR) yng Nghymru, rydym wrth ganol polisi sgiliau LlC ac yn gweithio i gynorthwyo LlC i ddarparu amgylchedd dysgu ôl-16 sy'n dal yn addas i'r diben ac sy'n gosod Cymru ar y blaen ymhlith cenhedloedd eraill y DU ac yn rhyngwladol.
I gyd-fynd â daearyddiaeth y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol (PDSR), mae'r cynllun hwn yn cefnogi gwaith ardaloedd economaidd Dinas-ranbarth Bae Abertawe a phartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, gan fanylu'n ofalus a chymryd blaenoriaethau'r ardaloedd hyn i ystyriaeth. Fel y nodwyd yn y cynllun blaenorol, mae'r ddwy ardal yn unigryw yn eu proffiliau llafur a’u proffiliau economaidd sy’n ganlyniad eu daearyddiaeth wahanol i raddau helaeth, a lle bo modd mae hyn wedi cael ei ystyried o fewn y cynllun hwn.
Yn unol ag iteriad 2016, byddwn unwaith eto'n anelu at ddylanwadu ar feysydd cwricwlaidd allweddol prentisiaethau a chymwysterau galwedigaethol, addysg bellach, addysg uwch a hyfforddeiaethau. Fodd bynnag, rhoddir pwyslais ychwanegol ar ffactorau megis:
• Cymryd i ystyriaeth y dangosyddion lles a gyhoeddwyd i asesu effaith gwaith LlC mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
• Sicrhau y bydd Gwybodaeth am y Farchnad Lafur (LMI) ranbarthol, fel y manylir yn y cynllun, yn sail i gyflawni darpariaeth cyflogadwyedd yn y rhanbarth fel rhan o'r Rhaglen Cyflogadwyedd Pob Oedran.
• Pwyslais pellach ar swyddogaeth y Gymraeg yn yr economi, gan fanylu ar y galw o gyfeiriad diwydiant am sgiliau iaith Gymraeg.
• Nodi gofynion sgiliau yr economi Werdd yn unol â chefnogi Twf Gwyrdd ac arloesi.
1.2 Proses
Mae mabwysiadu dull cyfnodol o ddatblygu'r cynllun wedi galluogi'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol (PDSR) i ymgysylltu ac ymgynghori gymaint ag sydd modd ag amrywiaeth o randdeiliaid, y mae eu barn wedi cael ei hystyried yn hanfodol i ddatblygiad y cynllun hwn.
1.2.1 Cyfnod Un – Mesur y Galw
Mae cyfnod un yn gweld datblygu nifer o grwpiau clwstwr diwydiannol y mae'r PDSR wedi ymgysylltu'n helaeth â hwy. Mae'r grwpiau clwstwr hyn yn cynnwys cyflogwyr allweddol o bob cwr o'r rhanbarth yn cynrychioli ystod o ddemograffigau busnes gwahanol ac y mae eu prif weithgaredd busnes yn cydredeg â gwahanol is-sectorau yn eu diwydiannau gwahanol. Mae'r grwpiau clwstwr hyn yn cynrychioli'r sectorau canlynol (sydd wedi eu hystyried yn flaenoriaeth sylweddol i ranbarth De-orllewin a Chanolbarth Cymru);
• Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch ac Ynni,
• Adeiladu,
• Y Diwydiannau Creadigol, Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol a TGCh,
• Bwyd a Ffermio,
• Iechyd a Gofal Cymdeithasol,
• Hamdden, Twristiaeth a Manwerthu.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyflwyniad


































































































   10   11   12   13   14