Page 13 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 13

11
Mae creu'r grwpiau hyn wedi ei gwneud yn bosibl casglu amrediad o ddata sylfaenol o natur feintiol ac ansoddol drwy sesiynau grwpiau ffocws ac arolygon1. Bu'r data hwn yn amhrisiadwy a hon fydd prif ffynhonnell tystiolaeth o'r galw yn y rhanbarth.
Yn ategu'r ymgynghoriad hwn, comisiynwyd darn o waith i benderfynu anghenion sgiliau mentrau bychain a chanolig sy’n seiliedig yn y rhanbarth. Casglodd y gwaith hwn safbwyntiau manwl cwmnïau2 o wahanol feintiau ar hyd a lled y rhanbarth. Dadansoddwyd y wybodaeth hon mewn cysylltiad â'r data sylfaenol a gasglwyd gan y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol a bydd yn ffurfio elfen mewnwelediad y cyflogwyr yn y cynllun hwn.
Cam annatod pellach o'r cyfnod hwn oedd gosod yr elfen hon, yn cynrychioli mewnwelediad 'amser real' y cyflogwyr, mewn cyd-destun drwy ddadansoddi amrywiaeth o wybodaeth farchnad lafur (LMI) eilaidd a gafwyd drwy Lywodraeth Cymru. Mae'r dadansoddiad hwn yn ei gwneud yn bosibl casglu sut mae’r rhanbarth yn perfformio o ran yr economi ac addysg ynghyd â rhoi gwybodaeth am ddemograffigau poblogaeth a busnes.
Mae lefel yr ymgysylltiad â chyflogwyr a gynhaliwyd gan y PDSR yn cadarnhau bod y cynllun hwn wedi ystyried nid yn unig LMI eilaidd ond hefyd anghenion y cyflogwyr allweddol yn y rhanbarth mewn 'amser real'.
1.2.2 Dadansoddiad o'r Cyflenwad
Mae cyfnod dau yn gweld dadansoddiad o'r wybodaeth am gyflenwad y cwricwlwm a roddwyd gan LlC i'r PDSR i'w ystyried yn erbyn y wybodaeth am y galw a gasglwyd yng nghyfnod un. Elfen allweddol o'r cyfnod hwn oedd datblygu grŵp clwstwr o ddarparwyr, sy'n cynnwys cynrychiolaeth o'r 5 coleg AB a'r 4 prifysgol sy'n darparu yn y rhanbarth ynghyd â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (FfHCC), Hyfforddiant Cambria, Gyrfa Cymru, yr Adran Waith a Phensiynau (DWP) a Ein Rhanbarth ar Waith (ERW). Roedd yr ymgysylltiad hwn yn rhan annatod o greu sylfaen i'r gwaith a gynhaliwyd gan y PDSR o ddadansoddi ad- dasrwydd y cwricwlwm a ddarperid a sut yr oedd argymhellion yn cael eu gwneud ar lefel sector.
Gellir gweld rhestr llawn o atodiadau i’r cynllun yma http://www.rlp.org.uk/employment-and-skills-plan-2017-annexes/
1.3 Cyfyngiadau a Ffactorau i'w Hystyried
Wrth ddarllen y ddogfen hon dylid ystyried nifer o ffactorau, a'r rhain yw;
• Yn unol â'r fanyleb gan LlC nid yw'r cynllun hwn ond yn gwneud argymhellion ynghylch darpariaeth al wedigaethol lawn amser ac elfennau o ddysgu yn y gweithle. Ceir y data atodol hwn yn atodiad 1 yn y crynodeb o'r cyflenwad. Mae'r PDSR yn sylweddoli mai cyfran fechan yw hyn o'r cynnig ôl-16 sydd ar gael o fewn y rhanbarth, gan nad yw'n ystyried y ddarpariaeth ar lefel ysgol, darpariaeth lefel A, y cynnig addysg uwch cyfredol nac addysg oedolion ac addysg gymunedol. Gobaith y PDSR yw cynhyrchu cynllun rhanbarthol sy'n cwmpasu'n llwyr yr holl dirlun ôl-16, gan fynd i'r afael yn llawn â'r cyfyngiadau hyn mewn iteriadau yn y dyfodol gyda chymorth LlC.
• Mae data'r ddarpariaeth addysgol a roddwyd i'r PDSR gan LlC yn gyfanredol ar lefel ranbarthol ac felly mae'n amhosibl adnabod cynnig sefydliadau unigol. Mae'r PDSR yn sylweddoli bod hyn yn gosod heriau wrth geisio gwneud argymhellion yngly^ n â newidiadau i'r ddarpariaeth, gan na roddir cyfrif am wahani aethau isranbarthol. Gobaith y PDSR yw ymdrin â'r materion hyn yn iteriadau’r cynllun yn y dyfodol drwy gytundeb â LlC a'r darparwyr unigol eu hunain.
1 Gellir gweld rhestr o'r cyflogwyr yr ymgysylltwyd â hwy yn atodiad 2 2 Gellir gweld rhestr o'r cyflogwyr yr ymgysylltwyd â hwy yn atodiad 2
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyflwyniad


































































































   11   12   13   14   15