Page 14 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 14
12
• Mae'r cynllun hwn yn un o dri a gynhyrchwyd yng Nghymru er mwyn cynorthwyo LlC yn ei dymuniad i fabwysiadu dull rhanbarthol o fuddsoddi mewn sgiliau. Er bod y methodolegau a ddefnyddiwyd yn amrywio rhwng y tri mae nod gyffredinol y dogfennau yn dal yr un fath. Mae'r tair partneriaeth sgiliau ranbarthol yn mabwysiadu dull tryloyw o gynhyrchu'r cynlluniau hyn ac yn gweithio gyda’i gilydd pryd bynnag y bo modd. Mae gwahanol flaenoriaethau economaidd pob rhanbarth yn arwain at amrywiaeth mewn dull ac yn yr argymhellion wrth iddynt gael eu gwneud a'u datblygu ar lefel ranbarthol yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.
• Dylid edrych ar dystiolaeth y cyflogwyr sydd wedi ei chynnwys ym mhroffiliau'r sectorau fel barn y cyflogwyr y bu'r PDSR yn ymgysylltu â hwy yn unig yn ystod y broses hon (naill ai drwy gyfarfodydd grwpiau clwstwr neu mewn ymatebion i arolwg) ac nid barn y diwydiannau yn eu cyfanrwydd. Fodd bynnag, er mai gan gyflogwyr unigol neu gynrychiolwyr diwydiant y gwnaed y sylwadau mewn llythrennau italig, a geir o fewn y proffiliau hyn, cytunwyd eu bod yn gynrychioliad teg a chywir o farn gweddill y cyflogwyr o fewn y grwpiau diwydiant hynny.
• Bu darparu portread cytbwys a chynrychioliadol o'r tirlun sgiliau yn y rhanbarth o'r pwys mwyaf i'r PDSR. Yng ngoleuni hyn, rhoddir persbectif y darparwyr yn adran 5, sy’n egluro'r cyfyngiadau a'r heriau a wynebir gan y darparwyr sy'n gweithio o fewn y rhanbarth.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyflwyniad