Page 19 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 19
2.4 Demograffeg
Mae amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn yn dangos bod oddeutu 207,284 o bobl yn byw yng Nghanolbarth Cymru, gyda 691,961 yn byw ym mhedair sir De-orllewin Cymru. Mae gan y ddwy ardal economaidd boblogaeth sy'n heneiddio gyda chyfran y boblogaeth sy'n 65+ wedi cynyddu o 5% a 2.8% yng Nghanolbarth a De-orllewin Cymru yn y drefn honno rhwng 2002 a 2015. At hynny, mae cyfran y boblogaeth sydd rhwng 0 a 15 wedi gostwng yn y ddau ranbarth economaidd dros yr un cyfnod.4
Y Gweithlu sy'n Heneiddio
Mae'r data uchod yn tynnu sylw at yr heriau demograffig sy'n cael eu hwynebu; serch hynny, mae cyfleoedd economaidd sylweddol yn parhau drwy ddefnyddio gweithwyr hy^n i raddau helaethach. Dengys ymchwil a gynhaliwyd gan PWC, drwy ei 'fynegai oes aur', fod y DU wedi ei gosod yn 18fed ymhlith gwledydd yr OECD am ei chyfleoedd i weithwyr hy^n ac am eu perfformiad. Roedd hefyd yn amlygu, pe bai'r cyfraddau cyflogaeth ar gyfer gweithwyr dros 55 yn cynyddu i'r un lefel â Sweden, yna gallai Cynnyrch Domestig Crynswth y DU fod oddeutu 5.8% yn uwch, sy'n cyfateb i tua £105 biliwn yng ngwerthoedd 20145. Mae gwella'r defnydd a wneir o weithwyr hy^n yn elfen allweddol i ddatrys her cynhyrchiant y rhanbarth.
Mae tystiolaeth yn yr adroddiad yn dangos bod yna nifer o ffyrdd y gellir gwella integreiddiad gweithwyr hy^n, gan gynnwys dulliau o ymddeol fesul cyfnod yn ogystal ag ehangu rhaglenni hyfforddiant i gynnwys gweithwyr hy^n megis mentora o chwith.
Efallai y bydd rhwystrau ar ffordd gwella cyfranogaeth a chynhyrchiant gweithwyr hy^n yn cynnwys cyfyngiadau yn y gweithle megis offer neu hygyrchedd, arferion gweithle anhyblyg neu rwystrau posibl o ran budd-daliadau. Un syniad cyffredin yn ymwneud â chyflogi gweithwyr hy^n yw y gall achosi iddynt ddadleoli gweithwyr iau gyda chwmnïau a chyfyngu ar y cyfleoedd datblygu a dilyniant.
Ymgysylltu â'r Gweithlu Iau
Mae ymgysylltu â phobl ifanc sy'n newydd i'r gweithlu neu eisoes o fewn y gweithlu yn her bwysig o safbwynt datblygu marchnad lafur y dyfodol o fewn y rhanbarth a sicrhau bod unigolion yn cael eu defnyddio i'w llawn botensial. Mae tystiolaeth o fynegai gweithwyr ifanc PWC yn amlygu bod y DU wedi sgorio islaw cyfartaledd yr OECD rhwng 2006 a 2015 ac mai gan y DU y mae’r diweithdra uchaf ymhlith pobl ifanc o gymharu â chyfraddau diweithdra gweithwyr hy^n allan o bob un o’r 35 gwlad yn yr OECD, y gellir ei briodoli yn rhannol i gyfradd cyflogaeth gyffredinol uchel.
Ceir tystiolaeth i awgrymu bod pobl ifanc yn cael trafferth i fynd i mewn i'r farchnad lafur sy'n amlygu bod gan y DU 'relatively high rates of part-time work for 15-24 year olds. While this may be preferable for some workers, it is likely to adversely affect earnings, training opportunities, career development, and job security.’6
4 http://rlp.infobasecymru.net/IAS/themes/economy/labourmarketintelligence/people%e2%80%93demographics, employment,unemploymentandeconomicinactivity/tabular?viewId=1977&geoId=1&subsetId=42
5 Mynegai Oes Aur PWC - Mehefin 2016
6 Mynegai Gweithwyr Ifanc PWC - Hydref 2016
17
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi