Page 21 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 21

2.8 Dadansoddiad Ardaloedd Teithio i Waith
Mae unigolion yn cymudo i leoedd gwaith o fewn y rhanbarth yn ystyriaeth bwysig wrth nodi gwahanol effeithiau teithio i waith ar draws y rhanbarth.10
Mae'r math o waith yn un o'r ffactorau pwysicaf sy'n effeithio ar ardaloedd teithio i'r gwaith, gyda thystiolaeth yn dangos bod gan weithwyr llawn amser lai o ardaloedd teithio i'r gwaith sy'n awgrymu bod unigolion sydd mewn gwaith llawn amser yn fwy tebygol o deithio pellteroedd mwy i'w gwaith na'r rheiny sy'n gweithio'n rhan-amser. Mae ffactor pellach yn ymwneud â lefelau cymwysterau unigolion, gyda'r rheiny sydd â lefelau cymwysterau is, â nifer sylweddol uwch o ardaloedd teithio i'r gwaith gyda daearyddiaeth lawer llai.11 Awgryma hyn fod y rheiny â chymwysterau isel yn llai galluog neu lai parod i deithio pellteroedd mawr i weithio ac felly'n tueddu i ganfod gwaith o fewn eu cymdogaeth leol.
Mae natur wledig ardal hefyd yn effeithio'n sylweddol ar yr amser a'r pellter sy'n cael ei deithio ynghyd ag addasrwydd seilwaith trafnidiaeth. Byddai'r effaith hon yn sylweddol lai pe gallai ardaloedd gwledig elwa i'r eithaf ar wella eu cysylltedd a chreu amgylchedd sy'n cefnogi gweithio o'r cartref.12
2.9 Demograffeg Busnes
Busnesau micro a busnesau bychain sy'n dominyddu yn y rhanbarth yn ei gyfanrwydd; dengys yr ystadegau diweddaraf fod gan 99% o'r busnesau sy'n gweithredu yn y rhanbarth lai na 99 o weithwyr cyflogedig. Gan Gastell-nedd Port Talbot ac Abertawe y mae'r ganran uchaf o fentrau canolig a mawr a chan Powys a Cheredigion mae'r ganran leiaf.13
Patrwm Newidiol Cyflogaeth
Mae'r ffordd y mae pobl yn gweithio yn parhau i esblygu ac mae'r hen syniad o swydd am oes yn gynyddol annhebygol i lawer o fewn y farchnad lafur. Mae'r farchnad lafur yn mynd yn fwyfwy newidiol gyda ffyrdd dynamig a gwahanol o weithio a ffyrdd amrywiol o gael eich cyflogi; mae'r newidiadau hyn yn creu nifer o heriau o ran sgiliau. Mae ymchwil a gynhaliwyd gan y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth (REC) yn dangos mai dim ond ‘13% of British people believe they will be working in traditional ‘9 – 5’ employment by 2025’14 gan dynnu sylw at yr ymwybyddiaeth fod natur cyflogaeth yn newid a bod angen hyblygrwydd. Fodd bynnag, gall cytundebau dim oriau gael effaith anghymesur ar grwpiau gwahanol o bobl. ‘People on ‘zero hours contracts’ are more likely to be young, part-time, women, or in full-time education when compared with other people in employment’.15
Mae'r defnydd cynyddol o gontractau dim oriau a datblygu'r economi gig yn rhoi hyblygrwydd i drefniadau cytundebol cyflogwyr ac unigolion ond maent hefyd yn creu her wirioneddol o ran sgiliau. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi canfod bod 905,000 o weithwyr yn y DU heb oriau gwaith wedi eu gwarantu16, (a elwir yn aml yn gontractau dim oriau) gyda 22% o'r rhain o fewn y sector Llety a Bwyd a 20.2% yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. At hynny, ‘around a third (32%) of people on “zero hours contracts” want more hours compared to 9% of people in employment not on zero hours contracts’.
10 Mae'r swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnal dadansoddiad eang o'r tueddiadau teithio i waith ar draws ardaloedd daearyddol yn ogystal ag ar draws dosbarthiadau cymdeithasol-economaidd. Caiff yr ardaloedd teithio i'r gwaith hyn eu diffinio fel ‘at least 75% of the area’s resident workforce work in the area and at least 75% of the people who work in the area also live in the area.’ Mae'n bwysig nodi nad yw ffiniau teithio i'r gwaith yn cyd-fynd â’r ffiniau gweinyddol presennol, sy'n tanlinellu'r cymhlethdodau sydd ynghlwm wrth ddeall yr effaith ar ardaloedd unigol.
11 http://ons.maps.arcgis.com/apps/MapSeries/index.html?appid=397ccae5d5c7472e87cf0ca766386cc2
12 http://ons.maps.arcgis.com/apps/MapSeries/index.html?appid=397ccae5d5c7472e87cf0ca766386cc2
13 http://rlp.infobasecymru.net/IAS/themes/economy/businesses/tabular?viewId=595&geoId=1&subsetId=42 14 Economi Gig: The uberisation of work – REC 2016
14 Contractau nad ydynt yn gwarantu lleiafswm o oriau: Medi 2016 - Swyddfa Ystadegau Gwladol
16 Contractau nad ydynt yn gwarantu lleiafswm o oriau: Mawrth 2017 - ONS
19
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi


































































































   19   20   21   22   23