Page 23 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 23

21
Mae'r rhaniad cynhyrchiant hwn rhwng yr ardaloedd trefol a'r ardaloedd gwledig yn arwyddocaol gan ei fod yn cynhyrchu nifer o heriau sy'n gysylltiedig â sgiliau, yn enwedig yn ymwneud ag argaeledd, recriwtio a chadw unigolion sy’n meddu ar sgiliau addas.
b) Heriau demograffig
O fewn y rhanbarth ceir nifer sylweddol o heriau demograffig gydag ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o gael problemau yn ymwneud â phoblogaeth sy'n heneiddio. Mae hyn yn cynnwys cyfran uwch o bobl dros 65 mlwydd oed na'r cyfartaleddau trefol, sy'n effeithio ar y galw ar wasanaethau lleol yn ogystal ag ar y gyfran o drigolion yn oed gwaith a all ffurfio'r gweithlu. Mae'r anghydbwysedd demograffig hwn yn creu heriau sylweddol o ran creu y màs critigol sy'n ofynnol ar gyfer cyflawni ymyriadau economaidd hyfyw ond hefyd yn ofynnol ar gyfer rhoi sgiliau newydd i unigolion hy^n.
c) Effeithiau llafur mudol ar yr economi wledig
Mae'r economi wledig yn cynnwys nifer o sectorau lle mae ar hyn o bryd ddibyniaeth weddol uchel ar y defnydd o lafur mudol, yn enwedig o'r UE. Mae'r sectorau hyn yn cynnwys cynhyrchu a phrosesu bwyd, lletygarwch a thwristiaeth yn ogystal â'r sector iechyd a gofal cymdeithasol.
d) Mynediad at wasanaethau
Mae natur cefn gwlad ac ardaloedd gwledig anghysbell yn benodol yn gosod pwysau sylweddol ar ddarparu gwasanaethau oherwydd nifer o ffactorau gwahanol sy'n cynnwys:
• Dwyseddau poblogaeth is, sy'n gwneud cyflawni arbedion maint yn anodd. Gall hyn gynnwys nifer isel o gleientiaid i wasanaethau eu cefnogi, sy'n gwneud costau yn ddrud ar gyfer cyrff cyflenwi yn ogystal â chyfyngu ar y cyfleoedd posibl i ymgysylltu.
• Mae pellteroedd teithio mawr rhwng cytrefi yn cynyddu'r amser a'r gost ar gyfer cael mynediad at wasanaethau. Gall hyn lesteirio datblygiad sgiliau unigolion o fewn ardaloedd gwledig sydd efallai yn dod wyneb yn wyneb â’r rhwystrau hy^n.
• Mae cysylltedd digidol gwael yn parhau i fod yn her oherwydd y gost o osod band eang ffibr; mae problemau yn ymwneud â'r 'filltir olaf o gysylltedd' yn parhau i fod yn her sylweddol i lawer mewn ardaloedd gwledig.
2.12 Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau a Diffyg Cydbwysedd
Ceir tystiolaeth sylweddol i awgrymu nad yw merched a dynion yn mwynhau yr un hawliau a’r un cyfleoedd ar draws pob sector o'r gymdeithas. Mae hyn yn arbennig o gyffredin o fewn y farchnad lafur a'r economi yng Nghymru, lle nad oes cynrychiolaeth gyfartal o ddynion a merched ar draws ystod o rolau, sectorau a meysydd pwnc.
Mae merched wedi'u tangynrychioli yn nifer o sectorau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru, fel y dangosir yn y tabl isod;
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi


































































































   21   22   23   24   25