Page 25 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 25

23
‘Solving the gender pay gap over the long term means tackling an ingrained difference in the skills that women gain and choose to develop during their academic studies and, therefore, in the jobs they go on to take. If more women are encouraged to study STEM subjects during their education and are taught in a way that recognises their cognitive preferences, we not only prepare them for a more dynamic world of work but we simultaneously start to bridge the gap in pay. This will require clear focus by both policymakers and employers’.19
2.13 Yr Economi Werdd
Mae'r weledigaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn y strategaeth economaidd 'Adnewyddu'r Economi: cyfeiriad newydd (2010)' yn canolbwyntio ar sicrhau ffyniant economaidd drwy ‘'gryfderau a sgiliau ei phobl a'r amgylchedd naturiol’. Rhan allweddol o'r strategaeth hon oedd adnabod naw sector blaenoriaeth; TGCh, Ynni a'r Amgylchedd, Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Diwydiannau Creadigol, Gwyddorau Bywyd, Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol, Adeiladu, Twristiaeth a Bwyd a Ffermio. Bernir bod y sectorau hyn yn rhai a all gynnig manteision economaidd ehangach drwy fanteisio ar ‘ICT, creating green jobs, resource efficiency and the movement to a low carbon economy’.20
Mae proffil economaidd Cymru yn hanesyddol wedi bod yn symud oddi wrth sylfaen oedd gan mwyaf yn weithgynhyrchu. Canlyniad hyn yw ‘trends and predicted changes in industrial structure having important implications for the design and successful implementation of green growth policies’.21 Felly, mae'n gosod yr economi werdd mewn sefyllfa allweddol wrth i Gymru ymdrechu i feithrin arloesedd a chreu economi ffyniannus sy'n gweithio i bawb.
Gellir diffinio twf gwyrdd fel a ganlyn:
‘Green growth in Wales is about fostering economic growth, development and social inclusion while ensuring that the natural assets provide the resources and environmental services on which our well-being relies. To do this it must stimulate investment and innovation which will underpin sustained growth and give rise to new economic opportunities, human capital formation and skills building, and redistribute the proceeds of growth.’22
Y pedwar dangosydd twf gwyrdd ar gyfer Cymru, fel y cynigiwyd gan yr OECD yw’r canlynol:
• Cynhyrchiant amgylcheddol ac adnoddau’r economi sy'n cynnwys dwysedd nwy ty^ gwydr gweithgarwch economaidd, cylchredeg ac adennill adnoddau a pherfformiad ynni a chynaladwyedd y stoc adeiladau.
• Y sylfaen asedau naturiol sy'n cynnwys gweithredu rheolaeth amgylcheddol dda mewn diwydiannau sylfaenol a chyflwr ecosystemau.
• Ansawdd bywyd amgylcheddol sy'n cynnwys hunanganfyddiad o les, peryglon i iechyd a achosir gan lygredd aer a mynediad at wasanaethau a diwylliant.
• Cyfleoedd economaidd ac ymatebion polisi sy'n cynnwys lefelau sgiliau'r gweithlu a chyfranogaeth y gweithlu; maes o ddiddordeb neilltuol o ystyried diben y cynllun hwn.
Nodir y dangosyddion mesuradwy a awgrymwyd o dan flaenoriaethau economaidd a’r ymatebion polisi yn y tabl isod:
19 https://www2.deloitte.com/content/dam/Deloitte/uk/Documents/Growth/deloitte-uk-women-in-stem-pay-gap-2016.pdf 20 http://www.cynnalcymru.com/wp-content/uploads/2015/02/Green-Growth-Baseline-Study1.pdf
21 http://www.cynnalcymru.com/wp-content/uploads/2015/02/Green-Growth-Baseline-Study1.pdf
22 http://www.cynnalcymru.com/wp-content/uploads/2015/02/Green-Growth-Baseline-Study1.pdf
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi


































































































   23   24   25   26   27