Page 27 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 27

25
Bydd y cynigion hyn yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer gwella cysylltiadau ar draws y sector addysg ôl-orfodol, ‘This is an opportunity to shape a system where institutions of all types are encouraged to work together to meet learners’ needs, enabling progression and building strong links with business, so that skills gaps can be addressed.’26
Roedd argymhellion adolygiad Diamond uchod yn rhoi pwyslais cryf ar gefnogi myfyrwyr, ‘cymorth cynhaliaeth sy’n rhoi’r hyblygrwydd iddynt ofalu am eu harian ac, i rai myfyrwyr, goresgyn yr heriau ariannol gwirioneddol sy’n gysylltiedig â chyfnod o astudio addysg uwch.’27
Hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei pholisi prentisiaethau wedi'i ddiweddaru drwy gyhoeddi ‘Cysoni’r model Prentisiaethau ag anghenion Economi Cymru’28. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu’r ffocws o'r newydd ar brentisiaethau a’r angen i'r rhain gyfateb yn well i ofynion diwydiant. ‘Rydym yn gwybod y bydd swyddi’r dyfodol yn gofyn am lefelau llawer uwch o fedrusrwydd nag yn y gorffennol. Er mwyn ateb yr her hon, bydd angen i brentisiaethau integreiddio’n fwy effeithiol i’r system addysg ehangach ac i ffabrig economaidd Cymru’.29
Mae'r ddogfen bolisi hefyd yn rhoi mwy o bwyslais ar yr angen i sicrhau bod prentisiaethau yn cael eu gweld fel llwybr gwerthfawr i yrfa. ‘‘Mae angen i lwybrau prentisiaeth fod yn ddewis amgen credadwy i’r llwybr academaidd, ac mae angen i bobl ifanc gael y cyfle i brofi’r buddiannau a ddaw yn sgil llwybr gyrfa galwedigaethol’.30 Mae hyn yn bwysig i gefnogi nodau ehangach Llywodraeth Cymru gan gynnwys cynyddu cyflogadwyedd a lleihau tlodi.
I gefnogi'r maes cyflogadwyedd mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Cynllun Cyflogadwyedd ar gyfer Cymru sy'n ceisio mabwysiadu agwedd fwy cyfannol at gyflogadwyedd. Mae hyn yn cynnwys yr angen ‘i ail-lunio'r cymorth cyflogadwyedd ar gyfer unigolion sy'n barod am swydd, a'r rheini sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur, i gaffael y sgiliau a'r profiad i ennill a chynnal cyflogaeth gynaliadwy’.31 Mae'r dull hwn yn bwriadu lleihau dyblygu darpariaeth o fewn maes cyflogadwyedd a gwella profiad unigolion ar draws y sbectrwm cyflogadwyedd.
2.16 Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn unigryw i Gymru ac yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau. Mae'r Ddeddf yn gosod saith nod llesiant yn eu lle ac mae'n ofynnol i gyrff cyhoeddus weithio tuag at bob un o'r saith nod[1].
• Cymru ffyniannus,
• Cymru gref,
• Cymru iachach,
• Cymru fwy cyfartal,
• Cymru o gymunedau cydlynol,
• Cymru o ddiwylliant byw a Chymraeg sy'n ffynnu,
• Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang.
Cefnogir y nodau gan bum ffordd o weithio gan gynnwys hirdymor, integreiddio, cynnwys, cydweithio ac atal.
26 http://bit.ly/2niEaYM
27 http://gov.wales/docs/dcells/publications/160927-he-review-final-report-cy.pdf 28 http://gov.wales/docs/dcells/publications/170206-app-policy-plan-cy-v2.pdf
29 http://gov.wales/docs/dcells/publications/170206-app-policy-plan-cy-v2.pdf
30 http://gov.wales/docs/dcells/publications/170206-app-policy-plan-cy-v2.pdf
31 http://gov.wales/docs/strategies/160920-taking-wales-forward-en.pdf
[1] https://futuregenerations.wales/about-us/future-generations-act/
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi


































































































   25   26   27   28   29