Page 26 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 26
24
Cyfleoedd Economaidd ac Ymatebion Polisi
Lefel Sgiliau'r Gweithlu
• Canran o absenoliaeth gan ddisgyblion yn oedran ysgol gorfodol mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd
• Canran y boblogaeth sydd heb gymwysterau
• Canran o bobl 16 - 64 oed wedi eu haddysgu i NVQ lefel 4 ac uwch
Cyfranogaeth y Gweithlu
• Cyfradd diweithdra, pobl oed 16 - 64
• Cyfradd anweithgarwch economaidd, pobl oed 16 - 64
• Cyfradd gweithgarwch economaidd, pobl oed 50 a throsodd
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei hamcanion strategol o ran twf gwyrdd drwy ei dogfen 'y busnes o ddatblygu’n genedl gynaliadwy’.23
2.14 Ardoll Brentisiaethau
Treth ledled y DU yw'r ardoll sy'n berthnasol i bob cyflogwr yn y DU sydd â 'bil cyflogau' blynyddol o £3 miliwn neu fwy.
Fel y gellir deall, mynegwyd pryder gan gyflogwyr mewn perthynas â sut y bydd yr ardoll yn gweithio a beth y bydd yn ei olygu iddynt. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n ymrwymedig i ddarparu ei Rhaglen Brentisiaethau drwy gyfrwng rhwydwaith darparwyr prentisiaethau Cymru ac nid oes ganddi gynlluniau i weithredu'r system dalebau sydd ar hyn o bryd yn cael ei gweithredu yn Lloegr.24
Roedd ymchwil a gynhaliwyd yn ystod datblygiad yr ardoll brentisiaethau gan Siambrau Masnach Prydain yn amlinellu nifer o bryderon yngly^n â gweithredu'r ardoll a'r effaith debygol. Testun pryder arbennig oedd nifer gyfyngedig yr ymatebwyr a ddywedodd y câi effaith gadarnhaol ar eu busnes. Roedd hyn yn cynnwys ‘11% who say the reforms will increase their recruitment of apprentices, 5% say it will have a positive impact on their wider training budget and 11% say it will improve the quality of vocational training in the sector.’24
2.15 Y Tirlun Gwleidyddol
Mae'r tirlun gwleidyddol a pholisi ledled Cymru a'r DU yn mynd yn fwyfwy deinamig, gyda meysydd sylweddol lle mae polisi’n dargyfeirio ar draws y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y penderfyniad arwyddocaol a wnaed gan y genedl ym mis Mehefin 2016 i bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn ogystal â chyfnod o ansicrwydd gwleidyddol. O fewn y maes polisi sgiliau bu mwy fyth o ddargyfeirio rhwng polisïau llywodraethau gwahanol y DU, yn arbennig rhwng y polisi ar gyfer sgiliau yn Lloegr a’r un yng Nghymru, gan greu heriau sylweddol ar gyfer cwmnïau sydd â busnesau traws-ffiniol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu nifer o ymatebion polisi i'r heriau sgiliau a wynebir yng Nghymru. Mae'r rhain wedi cynnwys dau adolygiad proffil uchel o addysg ôl-orfodol (adolygiad Hazelkorn) ac o ariannu myfyrwyr (adolygiad Diamond) ochr yn ochr â datblygu ymyriadau polisi newydd.
Amlinellai ymateb Llywodraeth Cymru i adolygiad yr Athro Hazelkorn y bwriad i ddatblygu un corff strategol i oruchwylio'r sector addysg ôl-orfodol. Y bwriad yw rhoi cyfrifoldeb i'r corff newydd hwn dros gynllunio, ariannu, contractio, sicrhau ansawdd, monitro ariannol, archwilio a pherfformiad, a hwn fydd prif gyllidwr ymchwil.
23 Y busnes o ddatblygu’n genedl gynaliadwy – Llywodraeth Cymru - 2016 24 https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/ardoll-prentisiaethau
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi