Page 22 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 22

20
Mae amrywiaeth trefniadau'r ‘economi gig’ yn cynnwys gwahanol fodelau gan gynnwys masnachfraint hunangyflogedig a chwmnïau gwasanaeth personol ymhlith eraill. Gall hyn symud y cyfrifoldeb am ddatblygiad rhai sgiliau oddi ar y cyflogwyr i'r gweithwyr unigol a gall fod yn her o ran amser ac arian i unigolion.
2.10 Sgiliau Digidol
Mae sgiliau digidol yn dod yn gynyddol bwysig o fewn yr economi gyda llawer o swyddi yn dod yn fwyfwy digidol.
‘Digital skills underpin growth across the economy and are vital to ensuring global competitiveness and productivity. They are needed across the population to enable social inclusion and access to digital public and private services.’
Os yw'r Deyrnas Unedig, a Chymru yn wir, i ddod yn genhedloedd digidol sy'n arwain y byd, yna mae hi'n hollbwysig bod y gweithlu presennol a gweithlu'r dyfodol wedi eu harfogi â'r sgiliau cywir fydd yn eu galluogi i fanteisio'n llawn ar y cyfleoedd y bydd technolegau digidol newydd yn eu cynnig.
‘Market and institutional challenges mean that many businesses are struggling to obtain employees with the right skills to exploit technological opportunities, and sections of society are missing out on the benefits of the digital economy.’
Ar lefel ranbarthol bydd Bargen Dinas Bae Abertawe yn cynnig cyfleoedd sylweddol yn y sector digidol. Mae hi felly'n hanfodol mynd i'r afael ag unrhyw heriau marchnad a heriau sefydliadol yn fuan. Bydd Ardal Ddigidol Dinas a Glan Môr Abertawe yn enwedig yn darparu llawer o gyfle i ddatblygu ac ehangu cwmnïau digidol/technolegol uchel eu gwerth fydd yn gadarnhaol o ran cyflogaeth ac o ran yr economi yn ei chyfanrwydd.
2.11 Natur wledig
Cefn gwlad a'r economi wledig
Mae'r economi wledig o fewn De-orllewin a Chanolbarth Cymru o bwys sylweddol ac mae'n cwmpasu ardaloedd mawr yng Ngogledd a Gorllewin y rhanbarth. Mae'n wynebu amrywiaeth eang o heriau sy'n unigryw i'r lleoliad gwledig. Mae'r rhain yn cynnwys y materion a nodir isod;
a) Cynhyrchiant yn lleihau
Mae'r cynhyrchiant, fel wedi'i fesur yn ôl Gwerth Ychwanegol Crynswth, mewn ardaloedd gwledig yn bennaf yn sylweddol is na'r DU, a hefyd yn is nag ardaloedd mwy trefol ar draws y rhanbarth. Mae hon yn duedd sydd i’w gweld ledled y DU. Mae hyn yn rhannol oherwydd natur y busnesau sydd wedi'u lleoli o fewn y gwahanol ardaloedd gyda niferoedd uwch o ddiwydiannau sydd â gwerth ychwanegol crynswth uchel, megis gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, wedi eu lleoli yn yr ardaloedd mwy trefol. Ffactor ychwanegol yw natur cyflogaeth o fewn ardaloedd gwledig, gyda mwy o bwyslais ar weithio rhan amser a hunan- gyflogaeth, yn aml yn ymwneud â busnesau ffordd o fyw.
Self-employment, part-time working and seasonal employment are more prevalent in rural labour areas. Self-employment and part-time working can be a positive lifestyle choice or a response to a lack of employment opportunities.’17
17 Employability and Skills in Rural Scotland 2012 – Scottish Government Employability Learning Network
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi


































































































   20   21   22   23   24