Page 20 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 20

18
2.5 Y Gymraeg
Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw y bydd y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru; bydd strategaeth dymor hir, fydd yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 2017 a 2050, yn rhoi manylion yr uchelgais o gyrraedd miliwn o siarad- wyr Cymraeg erbyn 2050.7
Canfu astudiaeth a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru o anghenion Cymraeg busnesau mewn wyth sector allweddol fod oddeutu 40% o gyflogwyr a holwyd yn Ne-orllewin Cymru a 38% o gyflogwyr yng Nghanolbarth Cymru yn dweud bod cael sgiliau Cymraeg yn bwysig o gymharu â 35% ar draws Cymru.
Mae'r dystiolaeth sylfaenol a gasglwyd gan y PDSR yn cefnogi hyn ond yn cadarnhau ymhellach bwysigrwydd y Gymraeg mewn sectorau gwahanol. Er enghraifft, adroddai'r mwyafrif llethol o atebwyr a holwyd, yn sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Hamdden, Twristiaeth a Manwerthu a'r Diwydiannau Creadigol, fod yr iaith Gymraeg yn bwysig iawn yn eu busnesau. Ceir gwybodaeth bellach ym mhroffiliau'r sectorau.
2.6 Lefelau Cymwysterau'r Boblogaeth
Dengys yr ystadegau diweddaraf nad oes gan 12.5% o boblogaeth De-orllewin Cymru gymwysterau; mae hyn yn uwch na'r cyfartaledd ar draws Cymru o 10.2%. I'r gwrthwyneb, dim ond 6.9% o boblogaeth Canolbarth Cymru oedd heb gymwysterau, sy'n cymharu'n ffafriol â chyfartaledd Cymru. Mae'r duedd hon hefyd yn berthnasol wrth ddadansoddi'r rheiny sy'n meddu ar gymwysterau hyd at lefel 4 neu uwch, gyda chyfartaledd Cymru ar 35.8%. Mae cyfartaledd De-orllewin Cymru yn is na hyn ar 33.5% a Chanolbarth Cymru yn uwch ar 38.1%.8
2.7 Cyflogaeth a Diweithdra
Dengys yr ystadegau diweddaraf fod 388,700 o bobl mewn gwaith yn y rhanbarth yn y flwyddyn i fis Medi 2016, gyda'r ddau ranbarth yn dangos cynnydd dros y flwyddyn. O'r 6 sir, dim ond Sir Benfro a welodd ostyngiad mewn cyflogaeth dros y flwyddyn.
Roedd graddfeydd cyflogaeth yn uwch yng Nghanolbarth Cymru, 73.6%, nag yn Ne-orllewin Cymru, 70.7%. Fodd bynnag, roedd y ddau yn is na graddfa'r Deyrnas Unedig o 73.7%.
O fewn y ddau ranbarth economaidd, gan Powys yr oedd y gyfradd gyflogaeth uchaf o 77.8% a gan Ceredigion yr oedd yr isaf gyda dim ond 66.9% o'i phoblogaeth mewn gwaith.
Ar 5.3%, roedd graddfeydd diweithdra yn uwch yn Ne-orllewin Cymru nag yng Nghymru a'r DU hefyd. I'r gwrthwyneb, roedd y gyfradd ddiweithdra yng Nghanolbarth Cymru yn 3.1%, sy’n is na'r cyfraddau ar gyfer y DU a Chymru hefyd. Roedd hyn yn cael ei yrru gan Dde-orllewin Cymru yn cynnwys yr awdurdod sirol gyda'r gyfradd drydedd uchaf o ddiweithdra; Abertawe.9
7 http://gov.wales/topics/welshlanguage/policy/living/?lang=en
8 http://rlp.infobasecymru.net/IAS/themes/economy/labourmarketintelligence/qualifications,educationandtraining/
tabular?viewId=1984&geoId=1&subsetId=42
9 http://rlp.infobasecymru.net/IAS/themes/economy/labourmarketintelligence/people%e2%80%93demographics,
employment,unemploymentandeconomicinactivity/tabular?viewId=1975&geoId=1&subsetId=42
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi


































































































   18   19   20   21   22