Page 30 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 30
28
Cyd-destun
Mae proffiliau'r sector sydd wedi'u cynnwys yn yr adran hon yn ganlyniad i'r ymchwil sylfaenol a gynhaliwyd gan y PDSR dros gyfnod o chwe mis yn amrywio rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2017.
Casglwyd y dystiolaeth a ddangoswyd trwy ystod o ddulliau ymchwil ansoddol, gan gynnwys arolygon electronig, grwpiau clwstwr sector a chyfweliadau lled-strwythuredig. Drwy mabwysiadu ymagwedd ansoddol at casglu'r wybodaeth hon roedd yn caniatáu i'r PDSR gasglu barn drylwyr nifer o gyflogwyr o gwmpas y rhanbarth, ac mae llawer ohonynt yn parhau i fod yn rhan bwysig o'r broses.
Dylid ystyried natur ansoddol y wybodaeth a gyflwynir ar y cyd â'r ymchwil feintiol eilaidd megis yr Arolwg Sgiliau Cyflogwyr ar gyfer 2015. Lle bo modd, mae'r wybodaeth a ddangosir wedi'i gefnogi gan dystiolaeth eilaidd sector benodol.
Bwriedir i'r proffiliau ddarparu crynodeb cynrychioliadol o farn cynrychiolwyr y diwydiant a’r chyflogwyr y mae'r PDSR yn ymwneud â hwy trwy gydol datblygu a chwblhau'r cynllun hwn.
3.1 Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch ac Ynni
Diffinio'r sector
Mae gan Gymru draddodiad hir a threftadaeth gyfoethog mewn diwydiant trwm, peirianneg a gweithgynhyrchu. Mae gweithlu medrus a lefel uchel o arbenigedd ynghyd ag arloesedd yn cael ei lywio drwy gydweithio rhwng cyflogwyr allweddol, Llywodraeth Cymru a sefydliadau academaidd yn gwneud y sector yn sbardun economaidd allweddol ar gyfer rhanbarth y De-orllewin a Chanolbarth Cymru.
Dengys yr ystadegau diweddaraf fod dros 21,700 o bobl yn cael eu cyflogi o fewn y sector yn y rhanbarth, gyda'r cyfrannau uchaf yn digwydd yng Nghastell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin. Mae'r sector yn eang ac yn cael ei gategoreiddio yn ôl is-sectorau megis awyrofod, moduro, electroneg, meddygol, amddiffyn, bwyd, rheilffyrdd, technoleg a deunyddiau.
3.1.1 Tystiolaeth Cyflogwyr
Recriwtio a Chadw Staff
Recriwtio yn hytrach na chadw sy'n fater allweddol i'r sector Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch gyda chyflogwyr yn teimlo bod y ffordd y mae'r sector yn cael ei weld yn ffactor sy'n cyfrannu’n sylweddol. Mae'r sector yn un sy'n arbennig o ddibynnol ar fathau galwedigaethol o hyfforddiant sy'n gwaethygu'r anawsterau ymhellach wrth recriwtio gan fod y ffordd y mae pobl yn gweld Prentisiaethau yn wael ac yn anwybodus. At hynny, mae llawer o gwmnïau yn disgwyl am gymeradwyaeth ar gyfer prosiectau seilwaith mawr sy'n creu heriau o ran recriwtio unigolion o gwbl, o ystyried y diffyg gallu ariannol i gyflogi staff 'mewn perygl'.
Dywedai cyflogwyr fod recriwtio unigolion profiadol, yn enwedig mewn peirianneg, meysydd arbenigol a thechnegol, yn her sylweddol. At hynny, mae amodau heriol y farchnad ac ansicrwydd yn achosi rhai problemau cadw gweithwyr wrth i staff ymdrechu i ddod o hyd i swyddi sy'n cynnig sefydlogrwydd a diogelwch.
Addasrwydd y Sgiliau sy'n cael eu Darparu
Mae galw clir gan gyflogwyr am fwy o hyfforddiant 'yn y swydd' nad oes angen iddo, yn y mwyafrif o achosion, gael ei achredu. Mae angen datblygu rhagor o hyblygrwydd yn yr hyfforddiant a gynigir. Mae gofyniad cyllid AU/AB/yr UE ar gyfer prosiectau achrededig yn rhwystr i beth gweithgaredd hyfforddi ac nid yw'n cynrychioli anghenion cyflogwyr; yn yr achos hwn dylid mesur allbynnau yn ôl nifer y swyddi a sicrhawyd neu gontractau a enillwyd ac yn y blaen.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau