Page 32 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 32
30
'Y broblem fwyaf yr ydym yn ei hwynebu yw dod o hyd i weithwyr. Oherwydd ein lleoliad mae hi mor anodd dod o hyd i'r gweithwyr iawn gyda'r sgiliau iawn ar gyfer ein diwydiant. Yn anffodus, mae ein baich gwaith yn cynyddu drwy'r amser. Rydym yn gorfod gwrthod gwaith gan nad oes gennym y gweithlu i gwblhau'r gwaith angenrheidiol mewn pryd.'
At hynny, heriau pellach y sonnir amdanynt yw cynnal busnes sy'n hyfyw yn fasnachol (7%) a chael gwaith am y pris cywir (2%). Mae'r rhain yn agweddau allweddol ar sicrhau cynaliadwyedd unrhyw fusnes. Gwaethygir y ffactorau hyn ymhellach gan yr her o gynnal eu sylfaen sgiliau drwy recriwtio gweithwyr yn effeithiol, eu cadw a'u hyfforddi.
Mae natur y sector yn golygu ei fod yn dibynnu'n drwm ar y galw byd-eang a'r economi. Roedd llawer o fusnesau yn nodi bod gofynion cwsmeriaid yn sbardun allweddol iddynt. Mae hyn ynghyd ag amrywiadau mewn prisiau nwyddau megis olew, nwy a dur a chryfder y bunt yn erbyn doler yr Unol Daleithiau neu'r Ewro.
Gyrrwr arall sy'n cael effaith sylweddol ar allbynnau a'r gweithlu yw technoleg, sy'n newid a moderneiddio prosesau peirianyddol. Dywedodd un busnes:
'Rydym yn gwmni peirianyddol traddodiadol gyda phrosesau llafur dwys a diffyg argaeledd gweithlu medrus. Mae angen inni wella technoleg i gynyddu effeithlonrwydd ac elw ein busnes. Mae modd i beiriannau mwy newydd gael eu gweithredu gan staff lled-fedrus.'
Wrth wraidd yr holl ffactorau hyn wrth gwrs mae ddeddfwriaeth a chyfeiriadau gwleidyddol cyffredinol. Mae hon yn ystyriaeth arbennig ar gyfer y busnesau hynny sy'n gweithredu yn y sector Ynni a'r Amgylchedd.
Rolau anodd i recriwtio ar eu cyfer
O'r busnesau hynny a holwyd mae'r mwyafrif wedi cael anhawster i recriwtio ar gyfer rhai rolau. Nodir y rolau hyn isod:
Bychan
Staff Technegol
Gweithiwr swyddfa
Peirianwyr medrus
Peirianwyr dylunio
Rheolwyr Uwch
Canolig Mawr
Rheolwyr Prosiect
Rheolwyr Adeiladu
Amcangyfrifwyr
Peirianneg
Technegol
Peirianwyr Falfiau Technegol
Peirianwyr Technoleg Uwch
Cynllunwyr/Trefnwyr Gwaith Cynnal a Chadw
Llafur crefftus dros dro
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau