Page 34 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 34

32
Yr Iaith Gymraeg
Dywedai mwyafrif o atebwyr nad yw'r Gymraeg yn bwysig o gwbl i'w busnes.
Er bod llawer yn dweud bod y Gymraeg yn rhan allweddol o'r diwylliant a'r hunaniaeth genedlaethol nid yw'n cynnig dim buddion amlwg i fusnesau sy'n gweithredu o fewn y sector. Mae'r mwyafrif llethol o'r cynhyrchion sy'n cael eu gweithgynhyrchu yn cael eu hallforio ac felly ychydig iawn o alw am y Gymraeg y mae gweithio ar y llwyfan byd-eang yn ei greu. Fodd bynnag, nodwyd o fewn y grwpiau clwstwr ei bod yn ddefnyddiol ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu â'r cyhoedd o fewn y sector ynni.
‘Rydym yn allforio ein nwyddau bron yn gyfan gwbl a does dim busnes, hyd yn oed gyda chyflenwyr lleol, yn cael ei gynnal yn Gymraeg. Mae pawb yn siarad Saesneg fel iaith y busnes, hyd yn oed pan fydd hi’n ail iaith iddyn nhw.’
‘Rydym ni’n sylweddoli ein bod ni’n chwarae rhan fawr yn economi Cymru, ond gan fod ein cwsmeriaid ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, Ewrop a gweddill y byd, ychydig iawn o angen sydd i gyflogeion ddatblygu eu sgiliau Cymraeg o ran y busnes.’
Rhwystrau i Hyfforddiant
Mae natur y sector yn ei gwneud yn ofynnol adnewyddu hyfforddiant yn rheolaidd. Mae hyn yn gwneud rhai rhwystrau'n waeth megis cost y mae llawer yn dweud sy'n cynyddu'n gyson. Yn gysylltiedig â hyn y mae cyflwyniad yr ardoll brentisiaeth sy'n destun pryder a dryswch i lawer o gyflogwyr.
Mae yna lawer o gyfleoedd i fusnesau gael mynediad at hyfforddiant cymorthdaledig. Fodd bynnag, dengys adborth gan gyflogwyr ei bod yn anodd iawn cael gwybodaeth glir am beth yw yr hyfforddiant hwn a sut y gallant gael mynediad ato.
Mae llawer yn mynd ati i ddatblygu eu cynnig hyfforddiant mewnol er mwyn lleihau eu dibyniaeth ar ddarparwyr allanol;
‘Ein prif rwystr yw cost rhyddhau cyflogeion i fynychu rhaglenni hyfforddiant, ynghyd â chost yr hyfforddiant. Rydym fel arfer yn gweld bod cost hyfforddiant a osodir gan ddarparwyr allanol ar gyfartaledd 3 gwaith yn uwch na’r hyn y gallwn ei ddarparu’n fewnol, sydd wedi dylanwadu ar ein strategaeth i gynhyrchu hyfforddiant yn fewnol. Mae 90% o’r hyfforddiant y mae arnom ei angen yn cael ei ddarparu’n fewnol erbyn hyn.’
Ar gyfer y busnesau hynny sydd wedi eu lleoli mewn ardaloedd gwledig mae dod o hyd i hyfforddiant sy'n addas i'r diben ac yn weddol leol yn her. Mae hyn eto'n gwneud elfen y gost yn waeth, y mae llawer yn ei chael yn faich sylweddol.
‘Mae’r costau’n cynyddu o hyd, ond, yn anffodus, o fewn ein diwydiant ni, mae arnom angen hyfforddiant neilltuol neu adnewyddu hyfforddiant arbennig bob hyn a hyn. Dydych chi byth yn siw^ r ychwaith y cewch chi grant. Problem arall sydd gennym hefyd yw ein llwyth gwaith a lleoliad gwaith ein gweithwyr; dydy hi ddim yn hawdd trefnu/archebu hyfforddiant addas.’
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau


































































































   32   33   34   35   36