Page 36 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 36

34
3.2 Adeiladu
Diffinio'r Sector
Diffinnir y sector Adeiladu fel ymgymryd â pharatoi tir ac adeiladu, newid a thrwsio adeiladau, strwythurau ac eiddo arall. Am y rheswm hwn, mae'r sector yn un o bwys yn fyd-eang, yn genedlaethol ac yn lleol.
Dengys yr ystadegau diweddaraf y disgwylir i Gymru weld twf mewn allbwn cyfartalog blynyddol o 6.2% rhwng 2017 a 2021. Disgwylir i'r twf hwn yng Nghymru fod yn sylweddol fwy na'r twf yn y DU yn ei chyfanrwydd o ymyl sylweddol o 1.7%.35
Yn rhanbarthol, mae'r sector yn cyflogi oddeutu 35,400 o bobl mewn 4,180 o unedau busnes lleol. Ar gyfartaledd, rhagwelir y bydd y lefel hon o gyflogaeth yn tyfu o 2.7% y flwyddyn, gyda disgwyl i'r galw fod gryfaf am oruchwylwyr crefftau adeiladu a gweithrediadau peirianneg sifil.36
3.2.1 Tystiolaeth Cyflogwyr
Recriwtio a Chadw Staff
Un pryder cyffredinol a fynegir gan gyflogwyr yw effaith niweidiol y darlun anwybodus a gwael sydd gan ddysgwyr a rhieni o'r sector. Mae hyn yn cyfyngu ar nifer yr unigolion talentog sy'n cael eu recriwtio i'r sector. Gallai mwy o ymdrech gan gynghorwyr gyrfaoedd ac ysgolion yn gyffredinol i hybu'r sector a'r cyfleoedd y mae'n eu cynnig mewn ffordd gadarnhaol, fod yn fodd o liniaru'r broblem hon.
Ymhellach, dengys tystiolaeth, er bod llawer o bobl yn derbyn hyfforddiant yn y sector, nad yw cyfran fawr ohonynt yn mynd ymlaen. Gelwir hyn yn 'ymadael cyn-prentisiaeth'. Mae gormod o ddysgwyr yn dod i mewn ar lefel 1 a heb barhau eu hyfforddiant ar ôl gorffen. Fel sector galwedigaethol iawn, mae felly angen cynyddu ymdrechion i hybu Prentisiaethau fel llwybr hyfforddiant posibl a gwerth chweil.
Mae methiant i ddenu myfyrwyr o galibr uchel i'r sector yn broblem arall; mae canolbwyntio cynyddol ar nifer y dysgwyr yn hytrach nag ar ansawdd y dysgwyr yn achosi her gan fod y sector yn methu â recriwtio ac wedyn cadw'r unigolion talentog, y mae eu hangen i symud y sector ymlaen a'i ddatblygu.
Mae'r problemau hyn yn arbennig o berthnasol a derbyn bod gweithlu'r sector yn heneiddio. Dywed CITB y bydd mwy na 400,000 o unigolion yn ymddeol o'r sector yn y 5-10 mlynedd nesaf. Byddai methu â recriwtio gweithwyr newydd i'r sector felly o bosibl yn anhygoel o niweidiol i'r sector a'i sylfaen sgiliau.37
• Mae disgwyl i 19% (sy'n cyfateb i 406,000 o bobl) o weithwyr adeiladu y DU sy'n 55+ mlwydd oed ymddeol yn y 5-10 mlynedd nesaf;
• ‘Mae disgwyl i 24% (sy'n cyfateb i 518,000 o bobl) o weithwyr adeiladu y DU sy'n 45-54 mlwydd oed ymddeol yn y 10-20 mlynedd nesaf;
• Mae 37% o weithlu adeiladu'r DU yn hunangyflogedig ac mae disgwyl i 23% (sy'n cyfateb i 182,800 o bobl) o'r rheiny ymddeol o'r diwydiant yn y 5-10 mlynedd nesaf'
37 http://www.citb.co.uk/news-events/uk-construction-skills-time-bomb/
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau


































































































   34   35   36   37   38