Page 38 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 38
36
3.2.2 Dadansoddiad Ymchwil Sylfaenol
Proffil Ymateb ar gyfer Adeiladu
9 8 7 6 5 4 3 2 1 0
Bychan Rhanbarthol
Heriau a Gyrwyr Newid a Galw
Micro DrBA TCC
Canolig Mawr
Yr her fwyaf sylweddol yr adroddwyd amdani gan y busnesau a holwyd yw dod o hyd i weithlu wedi ei hyfforddi'n addas a llafur o safon. Mae’r diffyg mynediad hwn at yr unigolion a ddymunir yn gwneud heriau eraill yn waeth megis sicrhau gwaith a sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â disgwyliadau cleientiaid.
Mae recriwtio yn cael ei nodi fel her i'r mwyafrif o fusnesau, a hynny ar ben y ffaith nad oes hyfforddiant addas i'r diben yn cael ei ddarparu.
'Recriwtio, fel bod ein sefydliad yn gynaliadwy ar gyfer anghenion y dyfodol. Mae'r sector Adeiladu yn amrywiol ac mae angen i hyfforddiant a chymwysterau fod yn addas i'r diben.'
Mae'r amrywiaeth hwn i'w briodoli yn rhannol i'r galw cynyddol am ddefnyddio deunyddiau newydd a dulliau newydd, gan awgrymu y gall hyfforddiant fynd yn hen ffasiwn os nad yw'n cael ei ddiweddaru wrth i'r datblygiadau hyn ddigwydd. Adroddir bod sicrhau gwaith o werth uchel hefyd yn her sylweddol i rai busnesau; mae hyn yn cael ei wneud yn waeth gan y prosesau tendro a chaffael.
'Mae sicrhau gwaith yn mynd yn fwyfwy anodd oherwydd tendro ymosodol a chystadleuol gan gontractwyr eraill. Rhwystrau caffael cyson y mae'n rhaid inni neidio drwyddynt - dogfennau PQQ a chwestiynau'n cael eu gofyn y byddai dogfen sgwib wedi delio â hwy.'
Mae'r heriau ychwanegol a ddyfynnwyd yn cynnwys swm y gwaith papur ac ystyriaethau iechyd a diogelwch i'w cymryd i ystyriaeth cyn dechrau gwaith pan lwyddir i'w gael. Mae'r ffactorau hyn wrth gwrs yn dibynnu ar geisiadau cynllunio llwyddiannus a chyllid prosiect; ac y mae'r ddau beth yma yn ffactorau a nodwyd fel heriau ychwanegol i rai.
Ar ben hynny, gall ffactorau allanol megis y farchnad dai gael effaith sylweddol ar fusnesau o fewn y diwydiant Adeiladu. Ynghyd â hyn mae dylanwadau megis chwyddiant cyflogau, chwyddiant deunyddiau, cystadleuaeth a rheoli credyd.
Yn ychwanegol, 'Mae protocolau'r llywodraeth, sef Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (BIM), newidiadau yn y ddeddfwriaeth bresennol o ran Iechyd a diogelwch, rheoli ISO a safonau ansawdd.'
Gall y rhain i gyd gael effaith sylweddol ar y ffordd y mae busnes yn gweithredu ac maent i gyd yn ystyriaethau ar gyfer cwmnïau sy'n gweithredu o fewn y sector hwn.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau