Page 39 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 39
Rolau anodd i recriwtio ar eu cyfer
Dywedai mwyafrif llethol y cyflogwyr eu bod yn cael trafferthion i recriwtio ar gyfer swyddi arbennig. Nodir y rolau hyn isod:
37
Micro/Bychan
Peirianwyr ifanc
Crefftau peirianyddol
Trydanwyr cymwysedig
Seiri maen
Gosodwyr briciau
Syrfëwr Meintiau
Canolig
Syrfëwr Meintiau
Gweithrediadau Safle
Rheolwyr Contractau a Phrosiectau
Swyddi Crefft, Technegol a Phroffesiynol
Mawr
Gyrwyr Cerbydau Nwyddau Trymion
Gweithredwyr medrus
Peirianneg/ Staff Masnachol
Parodrwydd Newydd-ddyfodiaid i'r Sector ar gyfer Gwaith
Mae'r diffyg profiad gwaith sy'n cael ei gynnig i ddysgwyr yn ystod eu cyrsiau yn achosi llawer o broblemau i gyflogwyr gyda'r mwyafrif yn dweud nad yw gweithwyr newydd i'r sector yn barod ar gyfer gwaith.
Un beirniadaeth neilltuol yw’r profiad cyfyngedig iawn sy'n cael ei gynnig i ddysgwyr mewn defnyddio offer llaw. Canlyniad hyn yw dysgwr sy’n meddu ar y cymhwyster achrededig ar gyfer y gwaith ond dim syniad sut i ddefnyddio'r wybodaeth hon yn ymarferol ar safle byw.
'Dydy rhaglenni addysg ar gyfer swyddi crefft, technegol a phroffesiynol ddim yn paratoi ymgeiswyr yn llawn ar gyfer y lle gwaith.'
'Mae llawer o brentisiaid rhwng 16 a 18 mlwydd oed yn brin o'r sgiliau sy'n golygu defnyddio offer llaw elfennol.'
Mae enghreifftiau o arfer da i'w gweld yn y rhanbarth, megis mentrau sy'n canolbwyntio ar ddatblygu Prentisiaid. Fodd bynnag, yn ôl yr hyn y mae'r cyflogwr ei hun yn ei gyfaddef mae mentrau o'r fath yn gyfyngedig ac mae angen mwy o ddatblygiad personol o safbwynt y dysgwyr cyn iddynt allu cyfrannu'n llawn i weithrediadau busnes.
Mae model sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd yn ysgolion uwchradd Bryngwyn a Glan-y-môr yn gweld dysgwyr yn datblygu eu cymwysterau lefel 1 a 2 mewn Adeiladu mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr. Mae safle sydd wedi ei adeiladu'n bwrpasol yn yr ysgol yn galluogi'r bobl ifanc hyn i ddatblygu eu sgiliau ymarferol ac ar-safle. Mae hyn yn cyd-fynd yn dda â'r galw oddi wrth gyflogwyr i ddysgwyr feddu ar fwy o brofiad ymarferol pan fyddant yn gadael addysg.38
38 http://en.calameo.com/read/001824487ea7b9ac7d5af
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau