Page 37 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 37
35
Addasrwydd y Sgiliau sy'n cael eu Darparu
Oherwydd natur y sector, mae llawer o gyflogwyr yn teimlo y byddai’r diwydiant a'r dysgwr yn elwa o ddull diwydiant cyfan o ddarparu cymwysterau. Awgryma hyn y byddai'r cymwysterau yn cwmpasu elfennau o'r holl grefftau, fyddai'n galluogi dysgwyr i ddatblygu amrediad eang o sgiliau ac felly gael cyfle i ganfod y grefft y mae ganddynt ddiddordeb gwirioneddol ynddi mewn ffordd wybodus.
Ynghyd â hyn teimlir y dylai dysgwyr gael y cyfle i ddysgu ar 'safle byw'; byddai cael eu bwrw i mewn i'r math hwn o ddysgu yn cynyddu eu hyder a'u cyflogadwyedd. Byddai hyn yn ateb i ryw raddau y broblem o ddiffyg profiad gwaith sy'n cael ei gynnig i ddysgwyr; mae'r dull ad hoc cynyddol, sy'n amlwg ar hyn o bryd, yn niweidiol i'r dysgwr ac i'r diwydiant yn ei gyfanrwydd. Nid yw'r 16 awr y mae dysgwr ar hyn o bryd yn eu treulio yn dysgu crefft yn ddigon ar gyfer cwrs llawn amser; awgrym y diwydiant yw ychwanegu chwech i saith awr at hyn yn benodol ar gyfer profiad gwaith.
Adroddai cyflogwyr fod angen datblygu sgiliau meddal dysgwyr o fewn y sector; yn enwedig sgiliau cyfathrebu ac adeiladu tîm. Mae'r rhain yn sgiliau hanfodol o fewn y diwydiant adeiladu oherwydd natur y gwaith. Byddai hyn hefyd yn gwella parodrwydd yr unigolion ar gyfer byd gwaith ac yn lleihau'r angen i gyflogwyr ddatblygu'r sgiliau hyn ymhellach wrth eu cyflogi a hynny ar eu traul eu hunain.
Cyfleoedd a Heriau
Mae cyfleoedd sylweddol a heriau sylweddol hefyd o fewn y sector ac mae dod o hyd i'r cydbwysedd yn hanfodol os yw'r sector i ddatblygu ymhellach a ffynnu yn y rhanbarth.
Mae meddwl am Brexit yn destun pryder arbennig gan fod cyflogwyr ac arbenigwyr y diwydiant yn rhagdybio y collir cyfran o'r gweithlu i Ewrop gan greu bylchau sgiliau sylweddol. Ar lefel fwy lleol mae gweld llafur medrus a thalentog yn symud i Loegr yn gosod heriau pellach. Mae'n bosibl y gallai cyfuniad o'r ddau fod yn niweidiol iawn.
Her ychwanegol i'r sector yw natur wrthodol rhai prosesau caffael. Mae'r prosesau hyn yn gwahardd cwmnïau brodorol mawr o bwys rhag ennill gwaith ar ddatblygiadau mwy, sef y swyddi gwerth uchel yn amlach na pheidio. Yn amlwg, mae'r cyfyngiadau hyn yn llesteirio twf cwmnïau a’u gallu i gyflogi mwy o bobl.
Un cyfle sylweddol a nodwyd gan gyflogwyr yw'r posibilrwydd o ailhyfforddi unigolion o sectorau eraill megis y gwasanaethau ariannol a phroffesiynol. Gallai hyn ddod yn arferiad mwy cyffredin wrth i ddatblygiadau technolegol newid sut y mae gwaith yn cael ei wneud o fewn sectorau eraill. Mae angen i'r sector Adeiladu fod yn gwbl barod i elwa ar y cyfleoedd hyn wrth iddynt eu cyflwyno'u hunain.
Bylchau Sgiliau
Barn grw^ p clwstwr y diwydiant Adeiladu yw bod yna ormod o unigolion yn astudio gwaith saer yn y rhanbarth. Yr hyn sy'n achosi'r pryder mwyaf yw'r diffyg tystiolaeth i awgrymu bod digon o swyddi gwag a gwaith i gefnogi hyn. Mae galw fodd bynnag, am blastrwyr, peintwyr ac addurnwyr, peirianwyr sifil, amcangyfrifwyr a syrfëwyr meintiau ar draws y sector.
Blaenoriaeth allweddol i'r sector ddylai fod cynyddu sgiliau hanfodol dysgwyr. Mae llawer yn mynd i mewn i'r sector yn analluog i gyflawni lefel sylfaenol o rifedd a llythrennedd sy'n achosi pwysau ar y cyflogwr i sicrhau bod y sgiliau hyn yn cael eu datblygu. Mae hyn yn cael effaith negyddol ar gynhyrchiant ac mae'n difa amser. Dylai hyn gael ei drin ar lefel ysgol gynradd ac uwchradd.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau