Page 40 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 40

38
Rhifedd, Llythrennedd a Sgiliau TGCh
Dengys dadansoddiad fod safon rhifedd, llythrennedd a sgiliau TGCh yn amrywio'n sylweddol rhwng busnes a busnes. Mae'r mwyafrif yn teimlo bod eu gweithlu yn gymwys yn y maes hwn tra mae eraill yn teimlo bod ganddynt ddiffygion difrifol.
Yr hyn sy'n amlwg yw bod rhai cyflogwyr yn teimlo bod safon y sgiliau hyn wedi bod yn gostwng dros y 10-15 mlynedd ddiwethaf. O ganlyniad mae cyflogwyr yn gorfod darparu hyfforddiant ar gyfer y staff y maent newydd eu cyflogi.
'Fel cwmni rydym wedi gweld ers blynyddoedd lawer bod lefelau sgiliau llythrennedd a rhifedd unigolion sy'n gadael ysgol wedi bod yn gostwng dros y 10-15 mlynedd ddiwethaf. Rydym ni, drwy weithio gyda'n coleg lleol, wedi rhoi amser i ffwrdd o'r gwaith i nifer o'n gweithlu ar gyfer mynychu hyfforddiant rhifedd, llythrennedd a TGCh sydd wedi bod o gymorth iddyn nhw yn eu gwaith ac yn eu bywyd gartref.'
Er bod diffyg y sgiliau hyn yn gallu achosi rhai problemau cynhyrchiant, mae cyfran fechan o gyflogwyr yn teimlo bod sgiliau meddal, megis sgiliau cyfathrebu da ac etheg waith gref yn bwysicach i'r sector a'r math o waith y mae'r cwmnïau hyn yn ei gyflawni.
Yr Iaith Gymraeg
Roedd y mwyafrif llethol o'r busnesau yn ystyried y Gymraeg yn bwysig iawn neu'n weddol bwysig i'w busnes.
Dywedai llawer, oedd o’r farn fod yr iaith yn weddol bwysig, nad yw’n hanfodol yn y sector, er ei bod yn bwysig;
'Dydw i ddim yn meddwl ei bod yn hanfodol yn ein sector ni. Rydw i'n siaradwr Cymraeg ac yn falch o fy etifeddiaeth ac o'r iaith Gymraeg ac yn awyddus i hybu'r gwerthoedd a phwysigrwydd yr iaith. Mae'n anodd gosod gwerth ar yr iaith i'n busnes ni gan mai'r sgil ymarferol yw'r peth pwysicaf un.'
Mae rhai pobl yn teimlo nad yw defnyddio'r Gymraeg yn bwysig o gwbl gan nad oes 'llawer o bobl yn rhugl yn y Gymraeg y dyddiau hyn; mae pawb eisiau siarad Saesneg ond dim ond sgil ddymunol, dim sgil hanfodol, ydy'r Gymraeg.'
Rhwystrau i Hyfforddiant
Un broblem fawr i'r sector yw'r diffyg cysylltiad a welir rhwng diwydiant, gwasanaethau cyngor gyrfaoedd ac ysgolion. Mae hyn yn niweidiol i'r dysgwyr pan nad yw ond ychydig iawn o'u dysgu yn seiliedig ar safleoedd byw.
Mae hyn wrth gwrs yn arwain at bwysau cynyddol ar gyflogwyr i ryddhau'r unigolion hyn ar gyfer yr hyfforddiant perthnasol y mae arnynt ei angen, gyda'r canlyniad bod amser yn rhwystr sylweddol i gyflogwyr. Dywedir bod rhyddhau staff ar gyfer hyfforddiant yn gallu bod yn niweidiol i gynhyrchiant cyffredinol y cwmni ar y diwrnod dan sylw.
Mae galw clir oddi wrth gyflogwyr i hyfforddiant fod yn fwy galwedigaethol;
'Mae angen i hyfforddiant fod yn fwy seiliedig ar brentisiaeth fel y gall pobl ddysgu wrth wneud y gwaith ac ennill profiad yn hytrach na gwneud gwaith llyfrau a phapur a ddysgir yn yr ystafell ddosbarth.'
Dyfynnwyd lleoliad a chost hefyd fel rhwystrau gyda chyflogwyr yn ei chael yn anodd dod o hyd i hyfforddiant addas i'r diben yn eu hardal, sy'n gwneud elfen y gost yn waeth.
'Rydym ni'n credu bod y ffordd y mae hyfforddiant yn cael ei drefnu ar hyn o bryd yn tueddu gormod i gyfeiriad y proffesiynau crefft ac yn ddianghenraid o gymhleth i hyfforddeion a chwmnïau sydd eisiau hyfforddi a recriwtio.'
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau


































































































   38   39   40   41   42