Page 42 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 42
40
Y Blaenoriaethau a Nodwyd
• Dylid dathlu esiamplau o arfer da ar hyd a lled y rhanbarth a'u datblygu ymhellach yn hytrach nag 'ail-greu'r olwyn'. Mae rhaglen Sgiliau Adeiladu Cyfle yn un esiampl lle mae'r effeithiau cadarnhaol i ddysgwyr a busnesau hefyd wedi eu cydnabod drwy wobr y Frenhines. Dylid annog sefydliadau eraill i ymgysylltu a chefnogi'r fenter i wella darpariaeth gynaliadwy tymor hir i'r sector.
• Mae gweithdrefnau caffael yn cael effaith niweidiol sylweddol ar fusnesau bychain a chanolig. Yng ngoleuni hyn mae angen adolygiad sy'n arwain at ddull cyson o gaffael nwyddau.
• Er y cydnabyddir bod y sefydliadau proffesiynol megis syrfëwyr meintiau, penseiri ac ymgynghorwyr eraill sy'n gyfystyr â'r diwydiant adeiladu wedi cael eu categoreiddio o fewn Sector y Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol, teimlir y dylid cynnwys sefydliadau proffesiynol adeiladu o fewn y Sector Adeiladu, gan y bydd hyn yn cyd-fynd â mentrau hyfforddiant eraill yn genedlaethol megis gwefan Go Construct y CITB a'r dull lleol o brentisiaethau proffesiynol, fydd yn destun peilot ym mis Medi 2017. Mae angen cymhwyso hyn hefyd i’r contractwyr mecanyddol a thrydanol fel y gellir datblygu dull sector cyfan.
• Mae natur fasnachol gynyddol darparwyr addysgol wedi tynnu'r sylw oddi ar y ddarpariaeth ei hun, gyda darparwyr yn mynd yn fwy pryderus ynglŷn â nifer yn hytrach nag ansawdd y dysgwyr. Byddai lliniaru'r masnacheiddio hwn yn cynyddu cydwybod gymdeithasol ac yn troi’r sylw yn ôl ar y dysgwr a datblygu cydweithrediad gwirioneddol rhwng y sector a darparwyr hyfforddiant.
• Roedd y farn yn y ‘Modernise or Die: The Farmer Review of the UK Construction labour model’ yn esbonio'r angen i'r diwydiant adeiladu newid yn unol â gofynion adeiladu gwahanol. Dylid gosod nodau cyffelyb ar gyfer y sector addysg a hyfforddiant, mewn partneriaeth gyda'r cyflogwyr adeiladu, o ran yr anghenion a nodwyd o fewn meysydd megis profiad gwaith, mentora, gweithrediadau peirianneg sifil, aml sgiliau, dilyniant prentisiaeth technegol a phroffesiynol, yr ymdrinnir â hwy ar hyn o bryd y tu allan i'r llwybrau hyfforddiant craidd traddodiadol.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau