Page 43 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 43
3.3 Y Diwydiannau Creadigol
Diffinio'r sector
Mae gweithlu medrus a diwylliant o greadigrwydd ac entrepreneuriaeth wedi cyfrannu at y ffaith mai sector y Diwydiannau Creadigol yw'r un sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Mae'r sector yn amrywiol, yn cwmpasu'r is-sectorau canlynol: hysbysebu a marchnata, pensaernïaeth, crefftau, dylunio cynnyrch, dylunio graffig a dylunio ffasiwn, ffilm, teledu, fideo, radio a ffotograffiaeth, TG, meddalwedd a gwasanaethau cyfrifiadurol, cyhoeddi, amgueddfeydd, orielau a llyfrgelloedd, cerddoriaeth, perfformio a'r celfyddydau gweledol.
Ar draws rhanbarth De-orllewin a Chanolbarth Cymru mae'r sector yn cyflogi oddeutu 12,100 o bobl, cynnydd o 31% ers 2006.
3.3.1 Tystiolaeth Cyflogwyr
Recriwtio a Chadw Staff
Yn ôl tystiolaeth y cyflogwyr mae yna ddau fath o unigolyn yn gyflogedig yn sector y Diwydiannau Creadigol; pobl greadigol a'r rheiny sy'n cyflawni'r creadigedd hwnnw. Er bod y sector yn un poblogaidd ymhlith dysgwyr mae'n anodd recriwtio unigolion sydd â'r ddawn angenrheidiol. Mae hyn yn gyfuniad o fod heb y sgiliau a ddymunir yn gyffredinol o fewn y rhanbarth a methu â recriwtio'r unigolion hynny pan fydd ganddynt y sgiliau.
Nid yw'r cyngor gyrfaoedd a roddir mewn ysgolion yn addas i'r diben gyda golwg ar gyfleu'r amrywiaeth enfawr o gyfleoedd o fewn y sector. Mae yna nifer o swyddi arbenigol a diddorol nad yw dysgwyr yn gwybod amdanynt oherwydd diffyg arweiniad. Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod y cyngor hwn yn amserol ac yn cynrychioli'r sector yn iawn. Gallai hyn annog mwy o unigolion i ddilyn gyrfa yn y sector.
Addasrwydd y Sgiliau sy'n cael eu Darparu
Mae'r sector yn un cyflym ac yn newid yn fuan, gyda chyflogwyr yn dweud bod hyn yn creu heriau o ran y ddarpariaeth sydd ar gael sy'n adlewyrchu'r datblygiadau hyn. O ganlyniad, nid yw hyfforddiant yn cyfarfod ag anghenion diwydiant ac felly mae gormod o ddibyniaeth ar gwmnïau mawr i gynyddu sgiliau a hyfforddi unigolion wedi dod i'r amlwg. Mae hyn yn cadarnhau ymhellach yr angen i gyflogwyr a'r diwydiant ei hun ddylanwadu ar y ddarpariaeth yn hytrach nag academyddion.
Mae angen cyflwyno profiad gwaith yn ôl i mewn i ysgolion a hefyd i ddarpariaeth hyfforddi AB ac AU bresennol. Byddai hyn yn rhoi'r profiad ymarferol i ddysgwyr y mae arnynt gymaint o'i angen ac sy'n cael ei anwybyddu. Enghreifftiau o arfer da lle mae dysgu seiliedig ar waith ymarferol o'r pwys mwyaf yw'r BBC, ITV ac academïau'r Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol (NFTS).
Cyfleoedd a Heriau
Byddai cronfa ddata o ddoniau sy'n rhoi manylion sgiliau a gwybodaeth yn fuddiol i gyflogwyr sy'n dymuno recriwtio staff a doniau newydd.
Yn yr un modd, mae hybu'r defnydd o'r Gymraeg yn y sector yn gyfle, yn nhermau uwchraddio sgiliau unigolion a hefyd cryfhau diwylliant a datblygu hunaniaeth y sector ymhellach yng Nghymru.
41
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau