Page 45 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 45
Parodrwydd Newydd-ddyfodiaid i'r Sector ar gyfer Gwaith
Dengys y data fod 80% o'r busnesau hynny a holwyd yn adrodd bod newydd-ddyfodiaid i'r sector yn barod ar gyfer gwaith. Dywedir bod hyn yn uniongyrchol gysylltiedig â chalibr ac agwedd pobl greadigol, gyda'r unigolion sy'n gweithio yn y sector yn meddu ar yr etheg waith a ddymunir a'r gallu i ddysgu.
Nid ystyrir enghreifftiau lle nad yw unigolion yn meddu ar sgiliau penodol ar gyfer swydd arbennig yn rhy negyddol gan y gellir datblygu'r sgiliau hyn yn hawdd gyda phobl sy'n meddu ar yr agwedd iawn a'r awydd i ddysgu.
Rhifedd, Llythrennedd a Sgiliau TGCh
Ar y cyfan mae ymatebwyr yn teimlo bod eu gweithlu'n meddu ar y lefel a ddymunir o rifedd, llythrennedd a sgiliau TGCh. Dywedodd un atebwr: Mae'r rhan fwyaf yn raddedigion neu brentisiaid ac mae ganddynt lefel uchel o sgiliau cyn inni eu cyflogi.'
Yr Iaith Gymraeg
Dywedai'r mwyafrif o atebwyr fod y Gymraeg yn bwysig iawn neu'n weddol bwysig i'w busnes.
'Mae gennym ni aelodaeth ddwyieithog ac rydym yn ceisio adlewyrchu hynny. Mae gennym ni gwsmeriaid sy'n siaradwyr Cymraeg ac rydym ni'n hoffi dangos ein bod yn barod i siarad Cymraeg.’
Er mai dyma'r sefyllfa, dywedodd un busnes y gall hyn fod yn heriol ar adegau:
'Rydym ni'n glynu at Bolisi Iaith Gymraeg ein Hawdurdod Lleol. Dydy hyn ddim bob amser yn syml gan mai 3 yn unig o'n tîm ni sy'n siarad Cymraeg. Mae costau cyfieithu yn uchel iawn ac yn aml iawn yn golygu na fedrwn gyfieithu.'
I'r gwrthwyneb, dywedodd busnes, oedd wedi ateb nad oedd y Gymraeg yn bwysig o gwbl i'w gweithrediad hwy, fod hyn i raddau helaeth oherwydd lleoliad eu cwsmeriaid:
'Mae bron y cyfan o'n busnes ni yn cael ei gynnal yn Ne-ddwyrain Cymru, gweddill y DU a thramor. Anaml iawn y mae angen y Gymraeg a phan fydd angen, byddwn yn dod â siaradwyr Cymraeg i mewn.'
Rhwystrau i Hyfforddiant
Dywedodd y busnesau hynny a holwyd nad yw rhwystrau i hyfforddiant yn arferol yn y sector er bod addas- rwydd y sgiliau a ddarperir yn broblem mewn rhai achosion.
43
Bylchau Sgiliau
Electroneg
Ymwybyddiaeth Fasnachol
Golygu
Bylchau Sgiliau
Creu Cynnwys
Sgiliau TGCh
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau