Page 47 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 47

45
3.4 Bwyd a Ffermio
Mae'r sector bwyd a ffermio yn rhan sylweddol o economi Cymru ac yn cwmpasu rhan fawr o’r gadwyn gyflenwi bwyd a diod ac mae'n cynnwys cynhyrchu gwreiddiol ac amaeth yn ogystal â gweithgynhyrchu a pharatoi bwyd a diod. Mae hwn yn faes lle mae gan y rhanbarth bresenoldeb cryf yn draddodiadol a nifer o frandiau a chynhyrchwyr sefydledig.
Mae sector Amaeth, Coedwigaeth a Physgota yn cyflogi oddeutu 24,900 o unigolion ar lefel ranbarthol. At hynny, mae'r un ystadegau yn dangos bod 106,600 o unigolion yn cael eu cyflogi yn y sector cyfanwerthu, manwerthu, cludiant a gwestai a bwyd.39 Er nad oes modd gwybod pa gyfran o'r cyfanswm hwn sy'n ymwneud â'r sector bwyd yn unig, mae'r cyfanswm cyffredinol sylweddol yn ddangosydd da bod y sector yn un o bwys yn nhermau cyflogaeth ranbarthol.
Mae cyfleoedd mawr ar gyfer twf a datblygiad ar draws y rhanbarth yn cynnwys:
• Mae technoleg bwyd a phrosesu bwyd wedi eu nodi fel meysydd pwysig ar gyfer Parth Menter Dyfrffordd y Ddau Gleddau. Gallai parc bwyd newydd greu hyd at 1,000 o swyddi gyda'r datblygiad wedi ei dargedu at gynhyrchwyr llysiau ar raddfa fawr, prosesu bwyd, a chyflenwyr cynhyrchion llaeth yn ogystal ag allfeydd arbenigol ar raddfa lai a busnesau sy'n cychwyn.40
• Mae capasiti cynhyrchu a phrosesu sefydledig ar draws rhanbarth Canolbarth Cymru gyda nifer o gwmnïau rhanbarthol pwysig wedi'u lleoli yn y siroedd, gan gynnwys; Dunbia, Randall Parker Foods, Rachel's Dairy ac ati.
• Ar ben hynny, mae Horeb yn gartref i un o dri lleoliad Arloesedd Bwyd Cymru yn y rhanbarth yng Nghanolfan Bwyd Cymru.
• Hefyd mae Aberystwyth yn gartref i nifer o sefydliadau Amaethyddol Cymru pwysig fel Canolfan Organig Cymru a Hybu Cig Cymru.
• Mae un o'r marchnadoedd da byw mwyaf yn y DU ac un sydd wedi ei datblygu yn fwyaf diweddar yn y Trallwng.
• Datblygu Ysgol Filfeddygol yn Aberystwyth, (sydd hefyd yn cyd-fynd â sector y Gwyddorau Bywyd)
3.4.1 Tystiolaeth Cyflogwyr
Recriwtio a Chadw Staff
Mae llawer o gyflogwyr ac arbenigwyr diwydiant yn teimlo bod y ffordd y mae'r sector yn cael ei weld ymhlith dysgwyr a rhieni yn creu heriau wrth recriwtio newydd-ddyfodiaid. Fel sector galwedigaethol iawn mae stigma ynghlwm wrth brentisiaethau sy’n gwaethygu'r darlun gwael hwn gan ei gwneud yn anodd denu doniau i'r sector.
Byddai codi proffil prentisiaethau uwch, fel eu bod yn gyfartal â chyrsiau gradd, ymysg rhieni a dysgwyr yn cynyddu'r diddordeb yn y cyrsiau hyfforddi sydd ar gael o fewn y sector. Byddai offeryn llwybr gyrfa ynghyd â hyn yn gymorth i godi proffil y sector fel un sy’n llawn o gyfle a dilyniant.
Mae lleoliad gwledig rhai busnesau hefyd yn peri problemau o ran recriwtio ac wedyn hefyd o ran cadw ymhellach i'r dyfodol. Mae hyn ynghyd â thrafnidiaeth gyhoeddus wael a phatrymau sifftiau yn ei gwneud yn anodd iawn i unigolion gynnal cyflogaeth o fewn y sector.
39 https://statswales.gov.wales/Catalogue/Business-Economy-and-Labour-Market/People-and-Work/ Employment/Jobs/Whole-Workforce/workplaceemployment-by-welshlocalareas-industry
40 http://www.pembrokeshire.gov.uk/content.asp?nav=101,2212&id=34286
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau


































































































   45   46   47   48   49