Page 48 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 48

46
Nododd asesiad sgiliau a gynhaliwyd gan Lantra yn sector yr Amgylchedd a Diwydiannau'r Tir yn y DU y rhagwelir y bydd ar y sector angen 595,000 mwy o bobl ledled y DU rhwng 2010 a 2020.
Bydd angen i'r bobl hyn feddu ar gymwysterau ar y lefelau canlynol;
• 100,000 o bobl gyda chymwysterau ar lefel 7-8 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FFCCH),
• 245,000 o bobl gyda chymwysterau ar lefel 4-6 y FFCCH,
• 61,000 o bobl gyda chymwysterau ar lefel 3 y FFCCH,
• 97,000 o bobl gyda chymwysterau ar lefel 2 y FFCCH,
• 83,000 o bobl gyda chymwysterau ar lefel 1 y FFCCH,
• 9,000 o bobl heb gymwysterau.
‘Mae’r cynnydd yn y galw am bobl mewn galwedigaethau medrus yn awgrymu y bydd cynnydd yn y gofyn am sgiliau megis arweinyddiaeth/rheolaeth, cyllid, gwerthu a marchnata. Yn ôl astudiaeth ddiweddar Lantra o ddarpariaeth a gofynion y sector ar gyfer dysgwyr 14-19 mlwydd oed, mae cyflogwyr yn y sector yn ei chael yn anodd i gael gweithwyr sy’n meddu ar y sgiliau drwy’r gyfundrefn addysg bresennol. Mae sgiliau technegol, ymarferol, a phenodol i swydd yn neilltuol o bwysig a rhain yw rhai o’r sgiliau y mae cyflogwyr yn cael y mwyaf o drafferth i ddod o hyd iddynt.’
Addasrwydd y Sgiliau sy'n cael eu Darparu
Nid yw’r rhan fwyaf o'r cyrsiau a gynigir bob amser yn ychwanegu gwerth at y busnes. Mewn ymateb, mae rhai busnesau yn datblygu eu hyfforddiant mewnol eu hunain er mwyn rhoi sylw i'r anghenion sgiliau a nodwyd ganddynt. Nid yw cyrsiau achrededig bob amser yn angenrheidiol. Fodd bynnag, yn aml nid oes dewisiadau eraill ar gael. At hynny, nid yw llawer o gyrsiau yn cael eu darparu yng Nghymru sy'n golygu bod rhaid i lawer o gyflogwyr ddefnyddio darparwyr yn Lloegr am bris uwch.
Mae angen i fframweithiau prentisiaeth gyd-fynd â gofynion cyflogwyr a dysgwyr. Mae diffyg cysylltiad rhwng darparwyr a diwydiant yn arwain at ddarparu cymwysterau nad ydynt yn addas i'r diben. O ganlyniad, mae rolau mentora yn cael eu creu mewn rhai busnesau i ymdrin â'r hyn nad yw darparwyr wedi ei gynnwys. At hynny, mae'n well gan lawer o gyflogwyr NVQ fel math o hyfforddiant gan fod yr aseswyr yn treulio amser mewn busnes penodol sy'n datblygu perthynas.
Ateb ychwanegol a awgrymwyd i'r broblem hon gan y diwydiant yw creu academïau hyfforddiant mewnol. Byddai hyn yn galluogi cyflogwyr i roi i unigolion yr union gasgliad o sgiliau y mae arnynt eu hangen i symud y busnes ymlaen. Byddai hyn yn arbennig o fuddiol ac yn gymorth i gynllunio ar gyfer olyniaeth a DPP cyffredinol. Yng ngoleuni hyn, dylid bwydo arian yn uniongyrchol i mewn i'r busnesau i ddatblygu'r academïau hyn yn hytrach nag i ddarparwyr.
Mae lefelau sgiliau sylfaenol (yn enwedig rhifedd a llythrennedd) y newydd-ddyfodiaid i'r sector yn destun pryder sylweddol, gyda chyflogwyr yn gorfod buddsoddi amser mewn hyfforddiant i ddatblygu'r sgiliau hyn. Mae hon yn broblem arbennig ymhlith rhai 16 oed, ond mae'n parhau'n destun pryder ar draws pob lefel. Ateb a awgrymwyd gan y diwydiant yw bod elfennau rhifedd a llythrennedd rhai cyrsiau yn cael eu hadeiladu i mewn i elfennau ymarferol y cwrs.
At hynny, mae cyflogwyr yn teimlo bod diffyg ymwybyddiaeth o'r cyllid sydd ar gael iddynt ar gyfer hyfforddi ac uwchraddio sgiliau eu staff. Pan fo bylchau sgiliau o fewn sefydliad mae llawer heb fod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt i liniaru’r broblem hon, ac felly ddatblygu eu staff a'u busnes.
Cyfleoedd a Heriau
Bydd yr Ardoll Brentisiaeth arfaethedig bron yn sicr yn her i rai cyflogwyr; mae diffyg gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru yn gwaethygu'r ansicrwydd y mae llawer o gyflogwyr yn ei deimlo.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau


































































































   46   47   48   49   50