Page 49 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 49
Ar ben hynny, mewn rhai achosion mae'r sector yn dibynnu ar lafur o Ewrop ac felly gallai effeithiau posibl Brexit arwain at golli staff Ewropeaidd. Er enghraifft, mae unigolion â'r sgiliau bwtsiera a ddymunir yn anodd i'w recriwtio yn lleol i rai busnesau ac felly maent yn recriwtio unigolion o Ewrop.
Yn ddiweddar, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi datgan bod y diwydiant ffermio yn perygl o fod yn "stagnant" oni bai bod mwy yn cael ei wneud i annog y genhedlaeth iau i'r sector. Mae'r ffigurau diweddaraf yn nodi bod perchennog cyfartalog daliad fferm yng Nghymru dros 60 mlwydd oed gyda dim ond 3% o dan 35 oed. Mae hyn yn arbennig o berthnasol, o ganlyniad, mae'r FUW yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun gweithredu i fynd i'r afael â hwy. Mae hyn, wedi'i ganoli ar dair elfen bwysig;
• Cymhelliant ariannol i helpu ffermwyr hy^n i ymddeol yn y gobaith o ryddhau tir
• Gwrthdroi colli daliadau sy'n eiddo i'r cyngor
• Cymhelliant ariannol a fyddai'n annog ffermwyr hy^n i ymddeol, gan greu lle i newydd-ddyfodiaid
iau i'r sector.
Bylchau Sgiliau
Mae recriwtio cogyddion cymwysedig yn y rhanbarth yn her sylweddol fel ag y mae recriwtio gyrwyr Cerbydau Nwyddau Trymion cymwysedig.
3.4.2 Dadansoddiad Ymchwil Sylfaenol
Proffil Ymateb ar gyfer Bwyd a Ffermio
10
5
0
Heriau a Gyrwyr Newid a Galw
47
Micro Bychan DrBA TCC Rhanbarthol
Canolig Mawr
Dywedai rhai o'r busnesau a holwyd mai recriwtio yw'r her fwyaf sylweddol y maent yn ei hwynebu ar gyfer swyddi sydd angen sgiliau neu ddim sgiliau. Mae hyn yn arbennig o gyffredin i fusnesau a hoffai ehangu a symud y busnes ymlaen.
Mae hyn yn peri pryder arbennig o ystyried bod gweithlu'r sector yn heneiddio. Gallai methiant i ddenu digon o newydd-ddyfodiaid sydd â'r sgiliau a ddymunir i'r sector fod o bosibl yn anhygoel o niweidiol i'r sector a'i sylfaen sgiliau.
Ar lefel sector, mae'r dystiolaeth yn dangos bod cyflogwyr yn teimlo bod diffyg difrifol o hyfforddiant penodol yn sectorau gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod yng Nghymru.
Mae'r diffyg hwn o ddarpariaeth addas i'r diben, wrth gwrs, yn ffactor sy'n cyfrannu at yr heriau recriwtio a wynebir gan gyflogwyr.
Dywedodd un busnes mai lleoliad yw'r her fwyaf sylweddol iddynt hwy;
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau