Page 51 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 51
49
Rolau anodd i recriwtio ar eu cyfer
Dengys y dadansoddiad fod tua dros hanner o ymatebwyr yn dweud eu bod yn profi anhawster wrth recriwtio ar gyfer rhai rolau. Disgrifir y swyddogaethau hyn isod:
Micro/Bychan
Staff Bragu
Staff Technegol
Gweinyddwr Swyddfa
Gwyddonwyr bwyd
Peirianwyr Dylunio
Uwch Reolwyr
Cogyddion a Chynorthwywyr Cegin
Peirianwyr
Canolig Mawr
Peirianwyr
Gyrwyr Cerbydau Trymion
Cigyddion
Cyllid/Gwerthiant/ Adnoddau Dynol
EngineersPeirianwyr
Parodrwydd Newydd-ddyfodiaid i'r Sector ar gyfer Gwaith
Dywedodd y mwyafrif llethol o'r atebwyr nad yw newydd-ddyfodiaid i'r sector yn barod ar gyfer gwaith. Mewn llawer o achosion gwneir cyfeiriad penodol at rai ifanc sy'n gadael ysgol sydd heb wybod beth a ddisgwylir ganddynt mewn amgylchedd gwaith.
'Ychydig sy'n meddu ar y ddisgyblaeth angenrheidiol ar gyfer y gweithle - diffyg ymrwymiad, dibynadwyedd a diddordeb.'
'Dim gwir ddealltwriaeth o etheg waith a'r ymdrech sydd ei hangen i gael llwyddiant.'
Mae etheg waith gref ac agwedd gadarnhaol yn cael eu dyfynnu fel y sgiliau sydd fwyaf pwysig mewn newydd-ddyfodiaid a lle nad yw'r rhain yn bresennol bod angen hyfforddiant pellach;
'Yn y gorffennol rydym wedi cael nifer o 'brentisiaid' ifanc yn ymuno â'r tîm. Rydym wedi canfod y gallant gymryd peth amser i addasu i'r amgylchedd gwaith a bywyd gwaith. Mewn un achos yr oeddem ar fin rheoli perfformiad un unigolyn oherwydd ei etheg waith a'i gymhelliant. Fodd bynnag, dros gyfnod o 6 mis, pan gafodd ei fentora a'i reoli'n ofalus yn wythnosol mae wedi llwyddo i droi pethau o gwmpas.'
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau