Page 52 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 52
50
Rhifedd, Llythrennedd a Sgiliau TGCh
Mae yna amrywiadau ar draws y sector yn nhermau'r sgiliau hyn, gyda rhai cyflogwyr yn sôn am ddim problemau a rhai ar y llaw arall yn adrodd am broblemau dybryd. Nid yw'n ymddangos fod unrhyw batrwm i'r canlyniadau hyn gyda sbectrwm busnes yn gyfan gwbl yn profi anawsterau, waeth beth yw maint na lleoliad y busnes.
Pan oedd cwmnïau yn dweud nad oedd ganddynt broblemau, dywedai llawer bod lefel y sgiliau hyn yn ddigonol yn y mwyafrif o achosion ar draws eu gweithlu ac y darperir hyfforddiant mewnol pellach os bydd angen.
Enghraifft nodedig o lle mae cwmni mawr yn profi anawsterau yn y maes hwn yw lle mae dros 60% o'u gweithlu yn dod o Ddwyrain Ewrop. Wrth reswm, byddai hyn yn achosi heriau, yn arbennig o gofio nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Mae'r cwmni hwn yn arbennig o bryderus ynghylch effeithiau posibl Brexit ac yn dweud:
'... mae'r rhan fwyaf o'n gweithlu ni yn dod o Ddwyrain Ewrop. Bydd unrhyw rwystrau i symudiad llafur yn cael effaith enfawr ar ein busnes.'
Yr Iaith Gymraeg
Dengys y dystiolaeth fod pwysigrwydd sgiliau iaith Gymraeg i fusnesau yn ddibynnol iawn ar broffil eu gweithlu ac ar eu lleoliad.
Er enghraifft, mae'r defnydd o'r Gymraeg ar gyfer un cwmni wedi mynd allan o fodolaeth o gofio bod y rhan fwyaf o'r cwmnïau y maent yn gweithio gyda hwy yn cyflogi gweithwyr mudol (yn enwedig yn ystod yr adegau prysuraf yn eu gweithgynhyrchu). Mae hyn yn cynyddu'r galw am y defnydd o Saesneg fel iaith gyntaf.
Ar y llaw arall, dywedodd un busnes, 'Mae tua thraean o'r staff yn gallu siarad Cymraeg ac mae'n rhan bwysig o ddiwylliant y busnes. Rydym ni'n ceisio adlewyrchu ein hunaniaeth Gymreig lle bynnag y bo hynny'n bosibl a rhan o hyn yw defnyddio arwyddion Cymraeg a chael staff Cymraeg ar gael i gwsmeriaid y mae'n well ganddynt gynnal eu busnes drwy gyfrwng y Gymraeg.'
Dywedai’r busnesau hynny oedd yn ystyried yr iaith yn 'weddol bwysig' am anawsterau wrth recriwtio staff â'r sgiliau priodol, gydag un yn nodi; 'Rydym yn defnyddio'r Gymraeg yn rhai o'n deunyddiau marchnata ond does gennym ni mo'r sgiliau i gynnig gwasanaeth dwyieithog llawn i'n cwsmeriaid a'n rhanddeiliaid.'
Rhwystrau i Hyfforddiant
Dywedai mwyafrif helaeth yr ymatebwyr nad ydynt yn profi rhwystrau i hyfforddiant. Yr unig fylchau yn y ddarpariaeth a nodwyd oedd mewn hyfforddiant iaith Saesneg oherwydd yr amseroedd a roddir. Fodd bynnag, nid yw hyn yn rhy niweidiol i'r busnes hwnnw.
Bylchau Sgiliau
Peirianneg Electronig
Gwerthu a Sgiliau Cyfathrebu
Cigyddion Medrus
Bylchau Sgiliau
Gyrwyr CPC Cymwysedig
Diogelwch Bwyd
Rheolaeth
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau