Page 54 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 54
52
3.5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar a gofal plant yn elfen bwysig o'r economi sylfaenol. Drwy gefnogi iechyd a lles ar draws pob grw^ p oedran yn ogystal â bod yn sector o faint sylweddol yn nhermau cyflogaeth, mae'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn galluogi rhieni, gofalwyr ac unigolion i weithio. Mae'r sectorau wedi cael eu nodi fel maes o dwf sylweddol yn y rhanbarth oherwydd bod y boblogaeth yn heneiddio'n gyflym a bod yn y proffil demograffig nifer fwy o bobl hyn na'r cyfartaledd yn y DU. Yng Nghymru, rhagdybir y bydd nifer y bobl 65 mlwydd oed a throsodd yn cynyddu o 292,000 (44%) rhwng 2014 a 2039. Bydd hyn yn arwain at fwy o alw am sgiliau iechyd a gofal. Bydd addewid Llywodraeth Cymru o 30 awr o ofal plant am ddim yn creu mwy o alw am ofal plant, a fydd yn effeithio ar weithlu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae'n bwysig tynnu sylw at y gwahaniaethau rhwng y sector iechyd a’r sector gofal cymdeithasol lle y gellir cael amrywiaeth enfawr o anghenion sgiliau a heriau gwahanol.
Iechyd
Staff a gyflogir gan Galw Iechyd Cymru
Mae'r tabl isod yn amlinellu nifer o staff y GIG sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol fesul ardal bwrdd iechyd lleol.
Abertawe
Bro Morgannwg
1,237 7,702
2,939
2,569
1,571
22
16,040
Hywel Dda
BILl Athrofaol Powys
Staff meddygol a deintyddol
Staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymweld iechyd
Staff gweinyddol a staff ystadau
Staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol
Cynorthwywyr gofal iechyd a staff cefnogi eraill
Eraill
Total
634 29 3,977 861
1,796 605
1,471 295
1,344 189
12 2
9,234 1,981
Ffynhonnell: Ystadegau Cymru - Staff y GIG fesul grŵp staff a blwyddyn – Mawrth 2017 42 43
Dengys y tabl fod dros 27,000 o unigolion yn cael eu cyflogi yn y GIG yn y rhanbarth ar draws ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys nifer fawr o swyddi nad ydynt yn feddygol. Mae’r dosbarthiad unigol mwyaf o fewn 'staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymweld iechyd' gyda chyfanswm o 12,540 yn cael eu cyflogi yn y maes hwn.
42 https://statswales.gov.wales/Catalogue/Health-and-Social-Care/NHS-Staff/NHS-Staff-Summary/nhsstaff-by-staffgroup-year 43 Mae rhai meddygon teulu a rhai ymarferwyr deintyddol heb eu cyfrif gan mai staff ar gontract ydynt ac felly nid ydynt yn cael eu cyflogi gan y GIG yn uniongyrchol. Ni roddir gwybodaeth ychwaith am y gwasanaeth ambiwlans gan nad yw'r ffigurau hyn yn
bod ond ar lefel genedlaethol.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau