Page 56 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 56

54
Y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
Mae 802 o sefydliadau yn darparu gwasanaethau blynyddoedd cynnar a gofal plant yn Ne-orllewin a Chanolbarth Cymru. Mae 3,277 o bobl yn gweithio yn y sector – 446 fel gwarchodwyr plant a 2,831 mewn gofal dydd i blant.46
Gwarchodwyr plant Gofal dydd i blant Total
Nifer y darparwyr
384 418 802
Gweithlu
446 2,831 3,277
Mae gan addysg gynnar a gofal plant o safon uchel swyddogaeth bwysig o safbwynt sicrhau buddion tymor hir gwell i blant ac mae'n dylanwadu'n gryf ar eu cyfleoedd mewn bywyd yn y dyfodol. Gall yr addysg gynnar a'r gofal plant cywir fod o gymorth i ymdrin â rhai o'r problemau mwyaf disymud sy'n ganlyniad byw mewn amddifadedd, gan gynnwys sgiliau isel ac iechyd gwael y bydd angen amser i'w goresgyn. Peth sy'n sylfaenol i sicrhau darpariaeth blynyddoedd cynnar a gofal plant o safon uchel yw gweithlu amrywiol a medrus. Disgwylir i gynllun datblygu gweithlu 10 mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae, sydd i gael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2017, anelu at weithlu mwy cymwys a phroffesiynol.
Mae gofal plant hygyrch a fforddiadwy yn galluogi rhieni i weithio a hyfforddi a gall eu helpu i gyfrannu i'r economi ehangach.
3.5.1 Tystiolaeth Cyflogwyr Recriwtio a Chadw Staff
Dengys tystiolaeth cyflogwyr fod recriwtio a chadw staff yn broblemau sylweddol i sectorau iechyd a gofal cymdeithasol a hefyd y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Gwelir bod cynllunio gweithlu ar raddfa genedlaethol a rhanbarthol yn hanfodol bwysig i ddatblygiad y sector yn y dyfodol.
46 Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau


































































































   54   55   56   57   58