Page 58 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 58
56
Drwy ymgysylltu â'r grŵp clwstwr nodwyd pryderon pellach ynghylch addasrwydd y ddarpariaeth, gan gynnwys:
• argaeledd ac ansawdd aseswyr yn enwedig o fewn meysydd rheolaeth a'r Gymraeg;
• bod rhai unigolion yn cael eu 'gwthio drwy' gymwysterau gan ddarparwyr er eu bod yn anaddas ar gyfer eu rôl gan fod rhywfaint o weithgarwch yn cael ei yrru gan dargedau oherwydd cymhellion ariannu sgiliau.
• bod y broses asesu ar gyfer rhifedd a llythrennedd yn cael ei gweld fel rhwystr i recriwtio a chadw rhai
prentisiaid, yn enwedig y rhai sy'n dychwelyd i'r farchnad.
Mae cyfres newydd o gymwysterau yn cael ei datblygu i'w haddysgu o fis Medi 2019. Caiff y rhain eu darparu gan nifer cyfyngedig o gyrff dyfarnu fel ffordd o fynd i'r afael â chanfyddiadau'r adolygiad, yn ogystal â gwella ansawdd y ffordd y mae cymwysterau yn cael eu darparu a'u hasesu.
Cyfleoedd a Heriau
Swyddi newydd
Yn y dyfodol bydd angen gweithwyr i gymryd lle nifer sylweddol o weithwyr fydd yn gadael y sector, oherwydd ymddeol yn bennaf, gan fod yna ddemograffig hy^n yn ôl dadansoddiad Gofal Cymdeithasol Cymru o'r gweithlu cofrestredig, yn enwedig rheolwyr cofrestredig cartrefi gofal oedolion. Mae trosiant staff yn uchel yn rhai rhannau o'r sector, ac mae cyflogwyr yn sôn am anawsterau wrth recriwtio, yn enwedig ar gyfer rheolwyr cofrestredig a'r gweithlu gofal cymdeithasol.
Rolau yn y dyfodol: technoleg newydd
Yn y dyfodol, disgwylir y caiff mwy o unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth eu cynorthwyo gan weithlu gofal cymdeithasol hyderus, gwybodus a medrus, fydd yn gweithio'n greadigol gyda Thechnoleg Gynorthwyol Electronig i hyrwyddo eu lles, eu dewis a'u hannibyniaeth. Bydd hyn yn cynyddu annibyniaeth ac yn galluogi mwy o bobl i ddod o hyd i atebion creadigol i ateb eu hanghenion lles. Fodd bynnag, bydd hefyd yn creu bylchau gwybodaeth a phrinder sgiliau, wrth i sefydliadau geisio symud tuag at ddefnyddio mwy ar dechnoleg, gan ei bod yn annhebygol y bydd ganddynt staff fydd yn gallu bodloni'r gofynion hyn yn y dyfodol neu fydd yn meddu ar y medrau a'r agweddau sy'n ofynnol. Mae angen datblygu cynllun gweithlu rhanbarthol a strategaeth ar gyfer y 10 mlynedd nesaf er mwyn sicrhau y gall y sector fanteisio'n llawn ar y datblygiadau arloesol hy^n.
Rolau yn y dyfodol: integreiddio a chymhlethdod
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth. Bydd hyn yn gofyn am weithlu gofal sy'n meddu ar y sgiliau i gyflawni amrywiaeth o dasgau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd a gallu gwneud hynny ar eu pen eu hunain, yng nghartrefi pobl. Mae fframwaith ymsefydlu ar y cyd, newydd wrthi’n cael ei ddatblygu ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol y bwriedir ei gyflwyno ym mis Medi 2017 i geisio pontio'r rhaniad rhwng y sectorau.
Bylchau Sgiliau
Sgiliau rheoli
Disgwylir i reolwyr ac arweinwyr yn y sector fod o gymorth i gyflawni agenda'r Llywodraeth ar gyfer newid, i gynyddu proffesiynoldeb eu staff a gwella ansawdd ac amrywiaeth y gwasanaethau. Mae hyn yn gofyn am reolwyr sydd nid yn unig wedi eu hyfforddi ac wedi ymgymhwyso mewn gofal cymdeithasol, ond sydd hefyd yn meddu ar sgiliau arwain a rheoli busnes. Mae'n ofynnol i reolwyr gofal cymdeithasol, ar gyfer gofal preswyl plant, gofal cartref a chartrefi gofal oedolion, gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, ac mae cymhwyster lefel 5 yn rhagofyniad ar gyfer cofrestru. Mae cyflogwyr yn sôn am heriau wrth recriwtio rheolwyr cymwysedig o'r calibr cywir i ddarparu gwasanaethau. Mae rhaglen ddatblygu i baratoi unigolion ar gyfer rheoli yn cael ei hystyried fel model addas ar gyfer gwella rheoli a sicrhau parhad gwasanaeth ar gyfer cwmnïau. Mae'n bwysig nodi y gall heriau rheoli amrywio'n sylweddol rhwng y sector iechyd a'r sector gofal cymdeithasol oherwydd gwahaniaethau sefydliadol a diwylliannol ar draws y sectorau.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau