Page 59 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 59

Sgiliau gweithwyr gofal a chymorth cyffredinol
Mae 53% o bobl a gyflogir mewn gwasanaethau a gomisiynir gan awdurdodau lleol yn meddu ar y cymwysterau gofynnol neu'r cymwysterau a argymhellir ar gyfer eu gwaith, gan adael 47% i ddod yn gymwys. Yn gyffredinol, mae mwyafrif y gweithwyr hyn ar hyn o bryd angen cymhwyster galwedigaethol lefel 2 o leiaf mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
O 2020 ymlaen, bydd yn ofynnol i oddeutu 5,900 o weithwyr cartref (gofal cartref) yn y rhanbarth gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru er mwyn ymarfer. Un o'r gofynion cofrestru gorfodol yw meddu ar gymhwyster a enwir yn rhestr y Fframwaith Cymwysterau ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Sgiliau'r Gymraeg
Mae angen i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyhoeddwyd y strategaeth genedlaethol ddiwygiedig ar gyfer darpariaeth Gymraeg mewn iechyd a gofal; Mwy na Geiriau47 yn ystod gwanwyn 2016. Dywed y strategaeth:
"Mae pobl yn dewis cael gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn Gymraeg oherwydd mai dyna eu dewis a'u hawl. I eraill, fodd bynnag, mae'n fwy na dim ond mater o ddewis – mae'n fater o angen. Mae hyn yn arbennig o wir am yr henoed, pobl â dementia neu strôc neu blant ifanc sydd efallai ddim yn siarad ond Cymraeg."
Fodd bynnag, tra bod 24% o boblogaeth De-orllewin a Chanolbarth Cymru yn gallu siarad Cymraeg48, mae cyflogwyr yn nodi mai dim ond 14% o'r gweithlu gofal cymdeithasol sy'n gallu49. Gyda hyn mewn golwg, bydd yn bwysig i gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant gynnal a datblygu sgiliau iaith Gymraeg y gweithlu.
Sgiliau i gefnogi pobl ag anghenion cymhleth
Mae galwadau cynyddol ar y sector i ofalu am bobl ag anghenion tymor hir mwyfwy cymhleth. Mae hyn yn wir am bobl mewn lleoliadau preswyl a'r rhai sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain. Mae gofal dementia yn enghraifft benodol o hyn.
3.5.2 Dadansoddiad Ymchwil Sylfaenol
Proffil Ymateb ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
57
20 15 10 5 0
Micro DrBA TCC
Bychan Rhanbarthol
Canolig Mawr
47 Mwy na Geiriau, Llywodraeth Cymru, Mawrth 2016
48 Cyfrifiad 2011
49 Data o Niferoedd staff gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, ynghyd â data o gasgliad data
Rhaglen Ddatblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol staff sy'n gweithio i wasanaethau a gomisiynwyd gan awdurdodau lleol.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau


































































































   57   58   59   60   61