Page 61 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 61

59
Rolau anodd i recriwtio ar eu cyfer
Dywedodd y mwyafrif helaeth o'r ymatebwyr eu bod wedi wynebu anhawster wrth recriwtio ar gyfer rhai rolau. Nodir isod y rolau hyn fel y'u diffinnir gan ymatebwyr yr arolwg;
Micro/Bychan
Gweithwyr Gofal Cartref
Nyrsys
Gofalwyr
Uwch Ofalwyr
Eiriolaeth
Rheolwyr Prosiect
Canolig Mawr
Gofalwyr
Gweithwyr Cefnogi
Gweithiwr Cefnogi Cymunedol
Rheolwr Gweithredol
Swyddi Ceddalwedd Gweithiwr Cefnogi Nyrsys
Rheolwyr Meddygon Fferyllwyr Therapyddion Galwedigaethol Deintyddion Meddygon Teulu
Parodrwydd Newydd-ddyfodiaid i'r Sector ar gyfer Gwaith
Awgryma dadansoddiad o atebion cyflogwyr, er bod newydd-ddyfodiaid i'r sector yn gymwys i ymgymryd â'r rôl, nad ydynt bob amser o reidrwydd yn meddu ar y sgiliau meddal sydd eu hangen. Ceir rhywfaint o dystiolaeth hefyd i awgrymu nad yw rhai ifanc sy'n gadael ysgol yn gwbl ymwybodol o'r hyn a ddisgwylir ganddynt o fewn amgylchedd gwaith.
Rhwystr canfyddedig a nodwyd ar ffordd caniatáu i ddysgwyr ennill profiad yn y sector gofal yw bod y rheoliadau yn gwahardd unrhyw un o dan 18 oed rhag gweithio nac ennill profiad yn y sector. Mae hyn yn gamsyniad gan fod canllawiau clir ar gyfer lleoliadau gwaith mewn lleoliadau gofal o fewn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ac er bod y rhain yn amrywio rhwng y gwahanol leoliadau maent yn datgan yn fras bod angen i'r rhai o dan 18 oed gael eu goruchwylio'n llawn, bod yn uwchrifol a pheidio â chynorthwyo gyda gofal personol. Ymhellach, mae pryder ynghylch priodoldeb y ddarpariaeth;
'Yn aml nid yw ysgolion a cholegau yn gwybod am y datblygiadau diweddaraf sy'n newid wyneb gofal e.e. technoleg gynorthwyol, ac mae hyn yn effeithio ar sut y mae gofal yn cael ei addysgu ac i bwy a sut y dylanwadir ar bobl ifanc - y dewis rhwng gwallt a gofal.'
Nododd nifer o atebwyr nad ydynt yn recriwtio ond unigolion sydd eisoes wedi gweithio mewn rhyw lleoliad gofal. Mae hyn wrth gwrs yn golygu bod y rheiny nad oes ganddynt y profiad gwerthfawr hwnnw (megis newydd-ddyfodiad) yn cael eu cau allan yn syth.
Rhifedd, Llythrennedd a Sgiliau TGCh
Ar y cyfan, teimlai mwyafrif yr atebwyr fod sgiliau llythrennedd a rhifedd eu gweithlu yn addas i'r diben, er y dywedwyd bod sgiliau TGCh yn broblem i rai. Yr hyn sy'n amlwg o'r dystiolaeth yw bod personoliaeth a hyblygrwydd y gweithlu yn ystyriaeth bwysicach yn y sector hwn, gyda sgiliau cyfathrebu effeithiol o'r pwys mwyaf.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau


































































































   59   60   61   62   63