Page 62 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 62

60
Yr Iaith Gymraeg
Dengys y dadansoddiad fod y defnydd o'r iaith Gymraeg yn cael ei ystyried yn bwysig iawn neu'n weddol bwysig gan fwyafrif helaeth y busnesau a holwyd. Y rheswm a ddyfynnid oedd ei gwneud yn bosibl i'r gwasanaethau y maent yn eu darparu gael eu cynnig i gleientiaid yn eu dewis iaith.
Mae yna hefyd enghreifftiau lle mae'r defnydd o'r Gymraeg yn hanfodol i ddarparu gofal sy'n addas i'r diben ar gyfer y cleient; 'Mae hefyd yn dod yn fwy amlwg fod rhai (unigolion sy'n byw gyda dementia) yn troi'n ôl at eu hiaith gyntaf ac mai Cymraeg yw honno'n aml, nad oeddent wedi ei siarad yn y cartref efallai ers eu hieuenctid.' Mae rhai busnesau yn wynebu heriau, fodd bynnag; 'Mae ein hagwedd tuag at siarad Cymraeg yn rhagweithiol ond rydym yn cael trafferth i recriwtio siaradwyr Cymraeg. Rydym yn edrych ar gyfradd uwch o gyflog i gadarnhau bod hon yn sgil gydnabyddedig. Oherwydd anawsterau i recriwtio siaradwyr Cymraeg, rydym wedi gorfod addasu ein Polisi Siarad Cymraeg i adlewyrchu'r cyfyngiadau yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd.'
Rhwystrau i Hyfforddiant
Awgryma'r dystiolaeth nad yw'r busnesau hynny sy'n darparu hyfforddiant yn fewnol yn sôn am rwystrau i hyfforddiant. Ar y llaw arall, mae’r rhai a holwyd sy'n dibynnu ar ddefnyddio darparwyr allanol yn profi nifer o rwystrau, sef arian ac amser. At hynny, roedd y sgiliau hanfodol, gofynnol ar gyfer rhai gweithgareddau hyfforddi yn rhwystr i rai cyflogwyr.
Dyfynnwyd diffyg darpariaeth arbenigol fel problem, gyda'r hyfforddiant hwn yn canolbwyntio ar ddementia a gofal diwedd oes. Ymhellach, roedd lleoliad gwledig yn rhwystr arall gydag un busnes yn dweud bod rhaid iddynt deithio 2 awr i gael mynediad at hyfforddiant addas.
Bylchau Sgiliau
Staff Clinigol / Rheolwyr Lefel Uchel
TGCh/Cofnodi
Rheoli Haint
Y Blaenoriaethau a Nodwyd
Nyrsys
Bylchau Sgiliau
Sgiliau meddalwedd/BA
Peirianwyr / Seiri / Plymwyr
Gwirfoddolwyr
• Mae argaeledd nyrsys ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn faes blaenoriaeth ar unwaith, mae angen gweithredu ar hyfforddiant, recriwtio a chadw staff.
• Mae paratoi'r gweithlu gofal cymdeithasol ar gyfer eu cofrestru cyn cofrestru llawn erbyn 2020, gan gynnwys pecyn cymorth, yn flaenoriaeth.
• Gwella delwedd iechyd a gofal cymdeithasol gan gynnwys ei weld fel gyrfa werth chweil, adnabod llwybrau dilyniant gan gynnwys hybu prentisiaethau a pharatoi unigolion ar gyfer rheoli drwy recriwtio 'seiliedig ar werthoedd'.
• Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig ar gyfer darparu gofal o fewn y rhanbarth a nodwyd yr angen i godi sgiliau Cymraeg llafar.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau


































































































   60   61   62   63   64