Page 64 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 64
62
Mae'r Gymraeg yn bwysicach yn y sector hwn nag yn unrhyw sector arall yn ôl tystiolaeth sylfaenol a gasglwyd gan y PDSR. Mae cyflogwyr yn awgrymu y dylai arian ychwanegol fod ar gael gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo defnydd o'r iaith yn y sector ac felly hyfforddi unigolion yn briodol.
Mae'n hanfodol hefyd fod yr hyfforddiant a gynigir yn amserol ac yn addas; cred cyflogwyr fod y sector yn newid drwy'r amser ac felly y bydd angen sgiliau newydd bob amser. Mae'n hanfodol bod darparwyr yn gallu cynnig darpariaeth sy'n diwallu'r anghenion hyn er mwyn sicrhau y gall y sector ac unigolion elwa'n llawn ar gyfleoedd yn y dyfodol.
Mae gan y sector lefel uchel o hyfforddiant cydymffurfio, y mae'n rhaid ei ddilyn er mwyn bodloni gofynion deddfwriaethol, ac mae rhy ychydig o wybodaeth neu gyfleoedd gan gwmnïau sy'n cynnig yr hyfforddiant hwn pan fo'i angen ac am gost fforddiadwy. Mae enghreifftiau'n cynnwys cynnal a chadw tiroedd a chynnal a chadw cyffredinol.
Cyfleoedd a Heriau
Gellid newid diffiniad y sector i gryfhau ei sefyllfa fel sector uchelgeisiol, o werth uchel sy'n cynnig llawer o gyfleoedd. Efallai y bydd ystyried y sector fel un sylfaenol yn digalonni newydd-ddyfodiaid.
Dylid datblygu ysgol ragoriaeth yng nghanol y diwydiant sef Gorllewin Cymru. Byddai hyn yn cryfhau presenoldeb y sector fel un uchelgeisiol. Mae model Slofenia ar gyfer twristiaeth a hamdden yn enghraifft o arfer da, ac yn fodel y gellid ei ailadrodd yng Nghymru. Mae gan Slofenia bump ysgol gwesty a thair ysgol rhagoriaeth.
3.6.2 Dadansoddiad Ymchwil Sylfaenol
Proffil Ymateb ar gyfer Hamdden, Twristiaeth a Manwerthu
14 12 10 8 6 4 2 0
DRBA TCC
Micro
Bychan
Canolig Mawr
Heriau a Gyrwyr Newid a Galw
Mae recriwtio a chadw staff addas yn her i lawer o fusnesau sy'n gweithredu o fewn y sector hwn. Mae hyn yn cael ei lesteirio gan y darlun negyddol o'r sector a grëwyd gan Lywodraeth Cymru, sefydliadau addysgol a chynghorwyr gyrfaoedd.
'Nid yw Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydnabod Twristiaeth a Lletygarwch fel agwedd bwysig o'r economi sy'n dod i mewn. At hynny mae syniad ymhlith y cyhoedd bod Twristiaeth a Lletygarwch yn rhywbeth y mae rhywun yn ei wneud hyd nes iddo ddod o hyd i "swydd iawn". Dylid cydnabod y diwydiant yn gyhoeddus fel amgylchedd gwerth chweil, amrywiol, ysgogol, creadigol, lle dysgir llawer o sgiliau bywyd fydd o fudd yn unrhyw yrfa yn y dyfodol. Mae'n anrhydedd i weithio yn y diwydiant a chael cyfle i wneud
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau