Page 66 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 66

64
Parodrwydd Newydd-ddyfodiaid i'r Sector ar gyfer Gwaith
Mae’r mwyafrif llethol o gyflogwyr yn teimlo nad yw newydd-ddyfodiaid i'r sector yn barod ar gyfer gwaith. Mae hyn yn wir am lawer o'r rhai sy'n gadael yr ysgol a dyfodiaid ifanc yn gyffredinol.
Dengys y dystiolaeth fod sgiliau cyfathrebu effeithiol yn hanfodol o ystyried y ffordd y mae'r sector yn canolbwyntio ar gwsmeriaid. Mae'r sgiliau hanfodol hyn yn brin ymysg newydd-ddyfodiaid gyda llawer yn methu â sgwrsio'n effeithiol gyda chwsmeriaid ac yn methu â delio â gwrthdaro. Gwelwyd bod sgiliau cymdeithasol unigolion hefyd yn rhwystr. Yn gysylltiedig â hy^n, mae llawer heb fod yn ymwybodol o'r hyn a ddisgwylir oddi wrthynt mewn amgylchedd gwaith e.e. diffyg ymrwymiad, dim parodrwydd i ddysgu ac ati.
'Does gan weithwyr iau ddim syniad o weithio mewn amgylchedd proffesiynol a sut i ymddwyn o fewn y byd hwn. Maen nhw'n ei chael yn anodd cyfathrebu'n effeithiol, a dydyn nhw ddim yn gwybod sut i leisio eu barn a'u syniadau mewn ffordd gydlynol a chynhyrchiol. Mae ganddyn nhw syniadau gwerthfawr a diddorol y dylid manteisio arnynt, ond gall fod yn anodd iddyn nhw gyfleu'r rhain mewn lleoliad proffesiynol.'
'Maen nhw’n gallu weithiau bod heb sgiliau cyflogadwyedd allweddol megis cyfathrebu a dealltwriaeth o'r hyn a ddisgwylir mewn rolau fel pwysigrwydd dilyn polisïau a gweithdrefnau, peryglon yn y cyfryngau cymdeithasol a sgiliau gwasanaeth sylfaenol i westeion.'
Rhifedd, Llythrennedd a Sgiliau TGCh
Mae mwyafrif y cyflogwyr yn teimlo bod y rhan fwyaf o'u staff yn meddu ar y lefel ofynnol o sgiliau llythrennedd a rhifedd a TGCh i gyflawni eu rôl. Y rhai yr adroddir bod ganddynt y sgiliau gwannaf yn y maes hwn yw newydd-ddyfodiaid ifanc.
Ymhlith y rhai a ddywedai eu bod yn profi heriau yn y maes hwn, sgiliau TGCh oedd y sgiliau mwyaf prin;
'Y prif faes sy'n ddiffygiol yw sgiliau TG. Mae technoleg yn symud mor gyflym fel nad yw'r rhan fwyaf yn gallu cadw i fyny na chael dealltwriaeth o'r modd y mae'r cyfryngau cymdeithasol / cyfrifiadura'r cwmwl / di-wifr yn datblygu.'
Yr Iaith Gymraeg
Disgrifid y Gymraeg fel yn bwysig iawn neu'n weddol bwysig gan y mwyafrif o ymatebwyr. Y prif reswm am hyn yw'r gred fod ymwelwyr yn mwynhau clywed yr iaith p'un a allant hwy eu hunain ei siarad neu beidio. Mae'r un mor bwysig i staff allu sgwrsio ag ymwelwyr a chwsmeriaid sydd yn rhugl yn y Gymraeg.
'Mae gwesteion o’r tu hwnt i'r ffin yn awyddus i weld ac i'w trochi eu hunain yn niwylliant y lleoedd y maen nhw'n ymweld â nhw.'
Rydym yn ceisio creu ymdeimlad o le; mae ymwelwyr yn mwynhau clywed yr iaith yn cael ei siarad ac mae pobl leol yn fwy cyfforddus pan fyddant yn cael defnyddio'r Gymraeg.
'Fe garwn i gynyddu fy ngallu i fy hun i siarad Cymraeg, ac i staff sy'n delio â chwsmeriaid allu croesawu gwesteion yn y Gymraeg. Nid yw'n hanfodol... ond credaf y byddai'n ychwanegu agwedd werthfawr at ein cynnig.'
Rhwystrau i Hyfforddiant
Mae dadansoddiad o'r dystiolaeth yn nodi mai'r rhwystr mwyaf sylweddol i hyfforddiant yw diffyg hyfforddiant addas i'r diben, sydd ar gael yn lleol. Mae hyn wedyn yn gwaethygu'r rhwystrau pellach megis cost ac amser gan fod hyn yn arwain at gyflogeion yn gorfod cael eu hanfon i ffwrdd ymhellach i gael hyfforddiant.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau


































































































   64   65   66   67   68