Page 68 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 68
66
3.7 Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol
Diffinio'r Sector
Mae sector y gwasanaethau ariannol a phroffesiynol yn cwmpasu nifer o feysydd gwahanol ac mae'n cynnwys diwydiannau seiliedig ar wasanaeth yn bennaf. Mae'r sector yn amrywio o wasanaethau cyfreithiol ac ariannol drwodd i ymgynghoriaeth broffesiynol a galwedigaethau tebyg. Ar lefel Cymru y sector yw'r mwyaf o ran ei werth ychwanegol crynswth o'r holl sectorau blaenoriaeth (£12,080 miliwn). Mae hefyd yn gyflogwr sylweddol, gyda 31,400 o unigolion yn gweithio yn y sector ar draws rhanbarth De-orllewin a Chanolbarth Cymru.
3.7.1 Tystiolaeth Cyflogwyr
Recriwtio a Chadw Staff
Mae recriwtio a chadw staff yn sector y gwasanaethau ariannol a phroffesiynol yn dda ar y cyfan. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth i awgrymu bod cwmnïau bychain yn anwybodus ble i fynd i recriwtio Prentisiaid. Mae recriwtio a chadw unigolion yn yr is-sector cyfreithiol yn uchel iawn. Fodd bynnag, mae'n broffesiwn gystadleuol iawn ac felly mae profiad ymarferol yn amhrisiadwy. Mae'n her denu staff ym mhroffesiwn y gyfraith a chyfrifeg i weithio yn rhanbarth De-orllewin a Chanolbarth Cymru gan fod cwmnïau mawr yng Nghaerdydd yn targedu myfyrwyr prifysgol yn eu hail flwyddyn, er y byddai hyfforddiant y mae cwmnïau llai yn ei gynnig yn rhoi cyfleoedd ehangach.
Addasrwydd y Sgiliau sy'n cael eu Darparu
Un o brif ffynonellau trafodaeth i gyflogwyr yw'r angen i adeiladu elfen o brofiad gwaith neu brofiad ymarferol i mewn i bob cwrs. Byddai hyn o fudd sylweddol i'r cyflogwr ac i'r dysgwr.
Yn benodol, mae cwrs y Gyfraith yn Addysg Uwch wedi aros yr un fath ers bron i 20 mlynedd ac felly nid yw'n addas i'r diben ac nid yw'n paratoi dysgwyr ar gyfer byd gwaith yn dilyn graddio. Mae yna alw am i'r cwrs gynnwys mwy o sgiliau ymarferol, megis: dysgu ysgrifennu llythyrau, sgiliau ymchwil ac ateb galwadau ffôn. Mae'r rhain yn sgiliau nad yw newydd-ddyfodiaid i'r sector yn eu meddu ac y mae arnynt eu hangen.
Ymhellach, mae cyllid yn broblem ar gyfer y cwrs ymarfer cyfreithiol (LPC) y mae angen ei gwblhau cyn i unigolyn ddod yn gyfreithiwr cwbl gymwysedig. Mae'r broblem yn cael ei gwneud yn waeth gan y ffaith nad yw'r benthyciad dysgwr uwch, sydd ar gael yn Lloegr ar hyn o bryd, i'w gael yng Nghymru. Mae'n well gan rai cwmnïau gyflogi ymgeiswyr sydd wedi dilyn llwybrau llai academaidd.
3.7.2 Dadansoddiad Ymchwil Sylfaenol
Proffil Ymateb ar gyfer Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol
4
2
0
Micro Bychan Canolig Mawr DRBA TCC Rhanbarthol
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau