Page 69 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 69

67
Heriau a Gyrwyr Newid a Galw
Dywedir bod recriwtio staff addas a chael mynediad at hyfforddiant perthnasol yn heriau y mae rhai busnesau sy'n gweithio o fewn y sector yn eu hwynebu.
Mae natur y sector yn golygu ei fod yn cael ei yrru gan alwadau cleientiaid ac anghenion cwsmeriaid, sy'n dod รข'i heriau unigryw megis amserau llif arian pwysig. Mae'r problemau a'r gyrwyr hyn yn cael eu gwneud yn waeth gan newidiadau mewn deddfwriaeth (yn enwedig yn y sector cyfreithiol) ac yn ddibynnol i raddau helaeth ar newidiadau a symudiadau yn elfennau o'r economi, e.e. y farchnad eiddo.
Rolau anodd i recriwtio ar eu cyfer
Dywedodd mwyafrif o'r atebwyr a holwyd eu bod yn cael anhawster i recriwtio ar gyfer rolau penodol. Nodir y rolau hyn isod:
Micro/Bychan
Syrfewyr Siartredig
Canolig
Ysgrifenyddion
Cyfreithwyr Cymwysedig
Mawr
Technegwyr Ariannol Lled Gymwysedig CIPS Caffael Arweinyddiaeth a Rheolaeth Datblygwyr Meddalwedd Peirianwyr Seilwaith Arbenigwyr Diogelwch Seiber Penseiri Datrysiadau
Rolau Proffesiynol e.e. Cyfrifwyr; Adnoddau Dynol cymwysedig, Rheolwyr Ystadau Masnachol
Parodrwydd Newydd-ddyfodiaid i'r Sector ar gyfer Gwaith
Dywedai mwyafrif o'r busnesau a holwyd nad yw'r rhan fwyaf o'r newydd-ddyfodiaid i'w gweithlu yn barod ar gyfer gwaith. Mae yna deimlad cyffredinol nad yw newydd-ddyfodiaid yn sylweddoli'r hyn a ddisgwylir ganddynt mewn amgylchedd gwaith. Ymhellach, ceir tystiolaeth i awgrymu nad yw rhai yn meddu ar y sgiliau sylfaenol perthnasol megis cyfathrebu a sgiliau TGCh.
'Mae'r rhan fwyaf heb brofiad ymarferol o amgylchedd gwaith. Mae angen iddynt gael eu trochi am gyfnod addas.'
'Mae yna deimlad y dylai'r cyflog fod yn sylweddol uwch nag ydyw mewn gwirionedd. Mae yna ddiffyg rhifedd ymhlith llawer o newydd-ddyfodiaid, diffyg gallu i feddwl y tu allan i'r bocs a diffyg ymwybyddiaeth o'r byd masnachol yn gyffredinol. Pan ydym ni wedi cyfweld graddedigion newydd o goleg neu brifysgol mae yna ddiffyg gwybodaeth ynghylch sut beth yw byd gwaith. Mae hyn yn adlewyrchu ein dewis o edrych am weithwyr hy^n ar gyfer ehangu.'
'Ychydig sy'n meddu ar sgiliau ymarferol digonol ac mewn nifer o achosion nid oes ganddynt y sgiliau TGCh angenrheidiol.'
'Mae angen gwneud mwy o waith mewn addysg i baratoi pobl ar gyfer y gweithle. Mae'n rhaid dysgu gofynion syml megis dilyn cyfarwyddiadau, gorfod cyrraedd yn brydlon, presenoldeb ac yn y blaen.'
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau


































































































   67   68   69   70   71