Page 71 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 71
69
3.8 Grŵp Clwstwr Diwydiant Canolbarth Cymru
Recriwtio a Chadw Staff
Mae natur wledig yr ardal yn broblem ddifrifol i fusnesau sy'n gweithredu yng Nghanolbarth Cymru. Mae hyn yn gwneud anawsterau yn waeth o ran recriwtio a chadw'r staff a ddymunir gyda'r pellter i deithio i waith yn dod yn rhwystr i rai. Mae cysylltedd a seilwaith TGCh yn yr ardal yn achosi problemau pellach a gwelir hyn yn niweidiol i ddenu pobl fedrus a chyflogwyr allweddol i'r ardal.
Adroddai llawer o gyflogwyr am anawsterau recriwtio staff ar gyfer swyddogaethau penodol gyda'r canfyddiadau o sectorau cyflogi allweddol yn cael eu dyfynnu fel ffactor sy'n cyfrannu at hyn. Mae'r anawsterau recriwtio hyn wedi gorfodi rhai cwmnïau i ddenu gweithwyr o Loegr gan na ellir dod o hyd i'r ymgeiswyr a ddymunir yn lleol.
Soniai rhai cyflogwyr am brofiadau negyddol a gawsant o gynlluniau Llywodraeth Cymru oedd yn gysylltiedig yn uniongyrchol â phrentisiaethau ac eraill megis Twf Swyddi Cymru. Mae hyn wrth gwrs yn gwaethygu'r anawsterau a wynebir gan unigolion sy'n chwilio am gyfleoedd a busnesau hefyd sy'n chwilio am weithwyr. Gyda'r cyfyngiadau yr adroddir amdanynt yn y cynnig cwricwlwm ar draws yr ardal mae cynlluniau o'r fath yn amhrisiadwy o ran darparu cyfleoedd. Mae'n hanfodol felly eu bod yn ateb gofynion pawb dan sylw.
Addasrwydd y Sgiliau sy'n cael eu Darparu
Mynegwyd pryder sylweddol ynghylch y cyrsiau sydd ar gael ac yn cael eu cynnig yng Nghanolbarth Cymru. Canlyniad hyn yw bod dysgwyr yn gorfod teithio pellteroedd hir (weithiau dros y ffin) i ddysgu'r sgiliau y mae arnynt eu heisiau neu eu hangen. Mae hon yn broblem i ddysgwyr nad ydynt wedi dechrau gweithio eto ac i'r unigolion hynny sydd eisoes yn gweithio ac sydd angen hyfforddiant pellach. Mae symudiad y dysgwyr hyn yn gwaethygu'r duedd i'r goreuon adael yr ardal.
Esiampl benodol o hyn yw symudiad dysgwyr o Ganolbarth Cymru i golegau Henffordd a Llwydlo. Mae'r cole- gau hyn yn cynnig darpariaeth mewn Milfeddygaeth a Choedwigaeth sydd ill dau yn feysydd pwnc nad ydynt yn cael eu cynnig yn Canolbarth Cymru ar hyn o bryd.
Mae'r bylchau penodol mewn darpariaeth a ddyfynnwyd yn cynnwys:
• Mae'r cyrsiau arlwyo a gynigir yn hen ffasiwn ac felly ddim yn ateb y diben.
• Nid oes darpariaeth yn cael ei gynnig i'r rheiny sy'n dymuno mynd yn Benseiri ac mae dysgwyr yn gorfod
astudio yn Abertawe, Caerdydd neu Birmingham.
• Mae'r cwrs Coedwigaeth agosaf a gynigir yn cael ei gyflwyno ym Mangor. Fodd bynnag, mae cryn alw am
y sgiliau hyn yng Nghanolbarth Cymru.
Mae'r cyfyngiadau hyn yn y cynnig yn golygu bod busnesau yn gorfod mentro i gyflogi gweithwyr na fyddant o angenrheidrwydd yn meddu ar yr union sgiliau a ddymunir ar gyfer y swydd. Mae'n dod yn beth cyffredin chwilio am y rheiny sydd â set sgiliau tebyg ac wedyn maent yn dysgu'r sgiliau sydd ar goll drwy hyfforddiant mewnol ar draul y cyflogwr. Mae hyn yn haws i gwmnïau mawr ond gall fod yn broblem i Fentrau Bychain a Chanolig. Felly mae mwy o alw oddi wrth Fentrau Bychain a Chanolig am unigolion sy'n barod ar gyfer gwaith.
Mae diffyg parodrwydd newydd-ddyfodiaid ar gyfer gwaith wedi cael ei grybwyll fel problem i rai cyflogwyr. Gellir cysylltu hyn â beth y mae cyflogwyr yn ei deimlo am rai cyrsiau galwedigaethol a gynigir sef eu bod yn mynd i gynnwys llai a llai o brofiad ymarferol. Canlyniad y diffyg hwn o brofiad ymarferol yw bod llawer o'r cyrsiau yn mynd yn llai a llai perthnasol i fyd gwaith.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau