Page 72 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 72

70
At hynny, mae elfennau sgiliau hanfodol rhai cyrsiau a gynigir wedi dod yn rhwystr sylweddol i ddarpar ddysgwyr. Mae hyn yn wir am newydd-ddyfodiaid a'r rheiny sydd eisiau dychwelyd i ddysgu.
Cyfleoedd a Heriau
Mae cryn alw oddi wrth gyflogwyr yn yr ardal am gael gweld gwelliannau yn y cyngor gyrfaoedd a roddir i ddysgwyr yn ifanc er mwyn gwella eu darlun o sectorau cyflogaeth allweddol. Mae hyn hefyd yn wir am brentisiaethau fel llwybr dysgu gan fod llawer o ddysgwyr heb wybod am y cyfleoedd y gallent eu cynnig.
Ar hyn o bryd mae lefel yr ymgysylltiad rhwng cyflogwyr a darparwyr yn gyfyngedig. Teimlir felly nad yw anghenion cyflogwyr yn cael eu hateb yn ddigonol yn nhermau addasrwydd y ddarpariaeth a chyfyngiadau'r cynnig yn gyffredinol.
Y Blaenoriaethau a Nodwyd
• Y flaenoriaeth bennaf yw gwella'r cynnig yn lleol yng Nghanolbarth Cymru. Fodd bynnag, hyd nes y cyflawnir hyn mae'n hanfodol i weithgaredd trawsffiniol barhau i fod ar gael i ddysgwyr. Unigolion sydd fwyaf pwysig, nid ble maent yn byw neu'n gweithio, a dylai safonau a chyllid ddarparu mecanweithiau priodol i barhau i ddarparu hyd nes y cynigir dewis gwahanol addas.
• Mae angen arloesi a gwneud pethau'n wahanol, gan gynnwys bod yn fwy hyblyg a mwy ymatebol i arloesedd a newid.
• Mae diffyg hyfforddiant priodol o safon yn lleol yn destun pryder; mae angen gosod mwy o bwyslais ar fodloni cyflogwyr a dysgwyr ac anghenion y farchnad lafur leol.
• Mae yna anhawster i recriwtio aseswyr mewn nifer o leoedd sy'n cael effaith ar y ddarpariaeth alwedigaethol sydd ar gael.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau


































































































   70   71   72   73   74