Page 70 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 70

68
Yr Iaith Gymraeg
Yn debyg i sectorau eraill, mae yna gydberthyniad uniongyrchol rhwng lleoliad busnesau a pha mor bwysig y maent yn cyfrif y Gymraeg yn sector y Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol. Mae hyn hefyd yn rhywbeth sy'n cael ei yrru gan gleientiaid ac mae cwmnïau yn teimlo ei fod yn beth cadarnhaol i allu cynnig eu gwasanaethau'n ddwyieithog.
Barriers to Training
Mae'r rhwystrau i hyfforddiant y mae cwmnïau yn eu profi yn y sector yn cynnwys diffyg darpariaeth addas yn lleol a diffyg cyllid ar gael i ddysgwyr rhan-amser sy'n oedolion. Mae hwn yn rhwystr sylweddol i rai sy'n dymuno uwchraddio eu sgiliau neu newid proffesiwn.
Ymhellach, dywedodd un atebwr fod cael cyllid ar gyfer hyfforddiant penodol yn anodd gyda dull cyflwyno ar gyfer yr hyfforddiant hwn yn effeithio'n anffafriol ar gynhyrchiant.
Bylchau Sgiliau
Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Deallusrwydd Emosiynol
TG a Digidol
Bylchau Sgiliau
Masnacheiddio / Ymwybyddiaeth Busnes
Sgiliau Meddal
Gwasanaeth Cwsmeriaid Profiad yn y Gweithle
Y Gefnogaeth sydd ei hangen i Dyfu a Datblygu
Dywedodd busnesau fod angen cefnogaeth arnynt gyda'r meysydd canlynol;
Recriwtio Cydweithredu
Cyllid
Hyfforddiant Talent Y Blaenoriaethau a Nodwyd
• Diogelu ar gyfer y dyfodol gyda busnesau yn cynllunio'r gweithlu'n effeithiol gyda chymorth cynlluniau tymor hir mewn addysg i gynorthwyo'u gallu i recriwtio gweithwyr newydd gyda'r sgiliau a'r wybodaeth iawn a dysgu hyblyg i'w cynorthwyo i ddatblygu eu pobl bresennol.
• Mae angen deialog gyda darparwyr hyfforddiant i sicrhau bod cynnwys y cyrsiau yn ateb galw'r diwydiant gan gynnwys elfen o ddysgu seiliedig ar waith fel bod pobl yn fwy parod ar gyfer byd gwaith.
• Hyfforddiant arweinyddiaeth ac ymwybyddiaeth fasnachol i ategu'r cymwysterau proffesiynol.
Canfyddiad
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau


































































































   68   69   70   71   72