Page 74 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 74

72
4.1 Dinas-ranbarth Bae Abertawe
4.1.1 Bargen Dinas Bae Abertawe
Ddydd Llun yr 20fed o Fawrth 2017 llofnododd y DU a LlC Fargen Dinas Bae Abertawe a sicrhaodd fuddsoddiad gwerth £1.3 biliwn dros 15 mlynedd ar gyfer un ar ddeg o brosiectau trawsnewidiol. Bydd cyfanswm y buddion ar gyfer y rhanbarth yn cyfateb i £1.8 biliwn ac yn creu bron i 10,000 o swyddi newydd.52
Mae un ar ddeg o brosiectau wedi eu cynnwys yn y fargen y cytunwyd arni, sef:
Pentref Lles a Gwyddor Bywyd yn Llanelli
Adeiledir pentref Gwyddor Bywyd a Lles a bydd yn cynnwys cyfleuster gofal sylfaenol/ cymunedol, a sefydliad gwyddorau bywyd (ILS) a chyfleuster datblygu addysg a sgiliau.
Yr Egin: Clwstwr Creadigol a Digidol ar gyfer Cymru (Cam 2)
Bydd clwstwr creadigol a digidol yr Egin yn adeiladu ar gyfnod 1 Yr Egin, a fydd yn creu canolfan i'r diwydiannau creadigol o fewn Caerfyrddin ymuno ynghyd ag S4C fel tenant angor allweddol a nifer o denantiaid busnesau bach a chanolig.
Ardal Ddigidol Dinas a Glan y Môr Abertawe
Nod prosiect Ardal Ddigidol Dinas a Glan y Môr Abertawe yw creu canol dinas bywiog a chynaliadwy sy'n hwyluso twf gweithgareddau gwerth uwch (yn enwedig busnesau technoleg) ac sy'n gweithredu fel sbardun allweddol i economi'r rhanbarth.
Doc Morol Penfro
Mae Doc Morol Penfro yn dwyn pedair elfen allweddol ynghyd i ganolbwyntio, arloesi, cydweithio a chynhyrchu sylfaen ynni morol o safon byd-eang yng Nghymru gan wneud ynni sy'n deillio o'r môr yn gost-effeithiol a dibynadwy.
Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Gwasanaethau Digidol y Genhedlaeth Nesaf (CENGS)
Bydd y Ganolfan Rhagoriaeth ar gyfer Gwasanaethau Digidol y Genhedlaeth Nesaf (CENGS) yn pontio'r bwlch rhwng ymchwil ac arloesi a'r gallu i lansio, datblygu a thyfu cyfleoedd masnachol.
Gwneud Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer
Bydd y rhaglen yn targedu prosiectau adeiladu newydd ac ôl-ffitio tai presennol i leihau costau ynni a darparu cynhesrwydd fforddiadwy ar gyfer deiliaid tai.
Gwyddor Dur
Bydd Canolfan Gwyddor Dur newydd yn galluogi'r sector dur i esblygu yn wneuthurwr dur di-garbon, fydd yn arwain y ffordd gyda chynnyrch cadarnhaol o ran carbon, yn defnyddio cynhyrchion gwastraff a gynhyrchir yn lleol fel cemegyn a phorthiant deunyddiau crai.
Campysau Gwyddor Bywyd a Lles
I gefnogi datblygiad y sector gwyddor bywyd a lles o fewn y ddinas-ranbarth, gan adeiladu ar fenter lwyddiannus y Sefydliad Gwyddor Bywyd. Bydd y prosiect yn creu seilwaith estynedig ag adnoddau ehangach fydd yn fydd yn ei gwneud yn bosibl denu mwy o gyfleoedd a rhai mwy o faint, fydd yn amrywio o gyfleoedd mewnfuddsoddi mawr i weithgareddau masnacheiddio AU / y GIG.
Seilwaith Digidol Dinas-ranbarth Bae Abertawe
Bydd y seilwaith digidol arfaethedig yn integreiddio'r themâu yn ecosystem arloesi ddi-dor, fydd yn defnyddio asedau ac amrywiaeth y rhanbarth i gefnogi cyfleoedd cynhenid a mewnfuddsoddi.
52 http://www.swanseabaycityregion.com/en/cd.htm
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru
Prosiectau Uchelgeisiol a Datblygiadau Allweddol


































































































   72   73   74   75   76