Page 75 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 75

73
Ffatri Weithgar y Dyfodol
Bydd ffatri'r dyfodol yn ecosystem weithgynhyrchu, arloesi agored, â chysylltiadau digidol llawn, yn gosod rhwydwaith ffisegol gyda chanolbwynt a breichiau mewn adeiladau, wedi eu codi o’r newydd a rhai ar brydles, wedi eu gwasgaru ar draws dinas-ranbarth Bae Abertawe.
Menter Doniau a Sgiliau
Bydd Ymyriad Doniau a Sgiliau yn cael ei reoli a'i arwain gan y PDSR a bydd yn sefydlu dull rhanbarthol integredig o ddarparu sgiliau gan ganolbwyntio ar sgiliau sector penodol sydd eu hangen er mwyn ateb galw Bargen Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Bydd hyn yn sicrhau ymateb priodol ac amserol i ofynion diwydiant a phrosiectau sy'n dod i'r amlwg, gan barhau yn berthnasol ac yn effeithiol tra'n osgoi dyblygu neu golli cyfleoedd.
4.1.2 Morlyn Llanw Bae Abertawe
Mae cyhoeddi adolygiad Hendry ar y 12fed o Ionawr 2017 i ddyfodol morlynnoedd llanw53 wedi pwysleisio cefnogaeth gref ar gyfer datblygu morlyn llanw Bae Abertawe fel prosiect arloesol.
Ar ôl blynyddoedd o ddadlau, mae'r dystiolaeth yn fy marn i yn glir y gall morlynnoedd llanw chwarae rhan gost-effeithiol yng nghymysgedd ynni y DU. 'Mae morlynnoedd llanw ar raddfa fawr, fydd yn cael eu cyflawni gyda'r manteision a grëwyd gan y cynllun arloesol, yn debygol o fedru chwarae rôl werthfawr a chost-gystadleuol yn system drydan y dyfodol.’54
Er nad oes ar hyn o bryd unrhyw ddatblygiad pellach wedi bod ynglŷn â Morlyn Llanw Bae Abertawe oddi wrth y DU, mae'r adolygiad wedi rhoi hwb sylweddol i hyder dros y prosiect.
Mae'r PDSR wedi gweithio'n helaeth gyda g Ynni Morlyn Llanw (Tidal Lagoon Power) i ganfod a deall nid yn unig yr heriau sgiliau sy'n gysylltiedig â datblygu morlyn arloesol ym Mae Abertawe, ond hefyd y sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu sector ynni morlyn llanw yn y rhanbarth. Bu'r ymchwil hon yn edrych ar effaith ymchwil sydd eisoes yn bodoli yn y rhanbarth ynghylch galluoedd adeiladu a gweithgynhyrchu ac mae wedi ymestyn yr ymchwil gweithgynhyrchu i ganfod y lefelau sy'n ofynnol i gwblhau'r rhannau cydrannol. Gellir gweld crynodeb gweithredol a'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad yma: http://www.rlp.org.uk/wp-content/uploads/SBTL-Executive-Summary.pdf
Bydd y PDSR yn parhau i weithio'n agos gyda Tidal Lagoon Power a rhanddeiliaid perthnasol i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gyflwynir gan Forlyn Llanw Bae Abertawe a datblygiad tymor hirach diwydiant y morlynnoedd llanw.
4.1.3 Cydweithredu Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH)
Ffurfiwyd ARCH i gefnogi dull rhanbarthol cydgysylltiedig o gyflawni newid ystyrlon a gwella iechyd, cyfoeth a lles De-orllewin Cymru. Cydweithrediad ydyw rhwng byrddau iechyd y GIG, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a Phrifysgol Abertawe ac mae'n cefnogi gweithgareddau prosiect amrywiol o gwmpas pedwar maes allweddol.
• Gweithlu, addysg a hyfforddiant,
• Iechyd a lles,
• Trawsnewid gwasanaeth,
• Ymchwil, Menter ac Arloesi.
4.1.4 IMPACT – Deunyddiau Arloesol, Technolegau Prosesu a Thechnolegau Rhifiadol
Bydd adeilad IMPACT ar Gampws y Bae ym Mhrifysgol Abertawe yn ffurfio rhan o'r Coleg Peirianneg fel sefydliad ymchwil lled-annibynnol. Cynhelir ymchwil drwy amcanion strategol a bennir gan fwrdd llywio penodol a chyngor gan randdeiliaid allanol o fyd diwydiant, y llywodraeth a’r byd academaidd.
53 https://hendryreview.wordpress.com/
54 https://hendryreview.files.wordpress.com/2016/08/summary-of-recommendations.pdf
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru
Prosiectau Uchelgeisiol a Datblygiadau Allweddol


































































































   73   74   75   76   77