Page 76 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 76
74
Cyflawnir y rhaglen trwy dîm o tua 65 o ymchwilwyr academaidd mewnol a gefnogir gan 155 o ymchwilwyr ychwanegol.
4.2 Tyfu Canolbarth Cymru
4.2.1 Y Bannau+
Mae Canolfan Ragoriaeth Bio-buro BEACON, sydd wedi ennill gwobrau, dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, mewn partneriaeth â phrifysgolion Abertawe a Bangor, yn gweithio ym maes trosi biomas yn gynhyrchion bio-seiliedig. Mae BEACON yn cynorthwyo busnesau Cymru i ddatblygu ffyrdd newydd o droi porthiant, fel glaswellt rhyg a cheirch, a ffrydiau gwastraff yn gynnyrch sydd â defnydd iddo yn y diwydiannau fferyllol, cemegau, tanwydd a chosmetig.
4.2.2 Helix
Menter strategol Cymru gyfan yw prosiect HELIX a gyflawnir gan y tri phartner sydd gyda'i gilydd yn ffurfio Arloesi Bwyd Cymru.
Gyda'r thimau arbennig a chyfleusterau yn:
• Y Ganolfan Technoleg Bwyd, Grŵp Llandrillo Menai (Gogledd Cymru),
• Canolfan Bwyd Cymru, Cyngor Sir Ceredigion (Canolbarth Cymru) a
• Canolfan Diwydiant Bwyd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd (De Cymru)
Bydd y fenter hon yn datblygu a chyflawni gweithgaredd trosglwyddo gwybodaeth academaidd ac ymarferol sy'n canolbwyntio ar arloesedd bwyd, effeithlonrwydd bwyd a strategaeth fwyd i gynyddu cynhyrchiant a gweld lleihau gwastraff yn y gadwyn fwyd.
Bydd prosiect HELIX yn casglu gwybodaeth ar gynhyrchu bwyd, tueddiadau a gwastraff ledled y byd ac yn trosglwyddo'r wybodaeth i gynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr bwyd ledled Cymru.
4.2.3 Campws Arloesedd a Mentrau Aberystwyth
Bydd Campws Arloesedd a Mentrau Aberystwyth (AIEC) yn darparu cyfleusterau gyda'r gorau yn y byd a'r arbenigedd i greu atebion sy'n canolbwyntio ar y farchnad ar gyfer y diwydiannau amaeth-dechnoleg, bwyd a diod a biodechnoleg.
Bydd y campws yn cynnwys nifer o nodwedd ategol gan gynnwys canolfan wyddoniaeth ddadansoddol; canolfan fio-buro; canolfan Bwyd y Dyfodol, biofanc o hadau a chyfleuster prosesu a chanolfan a fydd yn hwyluso prosiectau ymchwil ar y cyd rhwng y Brifysgol a'r sector preifat yn y bio-economi.
Mae'r campws, a fydd yn costio tua £35 miliwn i'w adeiladu, yn cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Biodechnoleg a Bywydeg (BBSRC), a bydd yn ased allweddol yn sectorau blaenoriaeth y rhanbarth o Fwyd a Ffermio a Gwyddorau Bywyd.
Bydd y prosiect yn creu dros 100 o swyddi yn y diwydiant amaeth-dechnoleg a meysydd cysylltiedig unwaith y bydd yn gweithredu'n llawn, gan greu galw am sgiliau gwyddonol lefel uwch.
4.2.4 VetHub1
Hefyd mae Prifysgol Aberystwyth yn arwain ar ddatblygiad y prosiect VetHub1 gwerth £3 miliwn - cyfleuster o'r math diweddaraf, llawn cyfarpar, modern i hyrwyddo ac amddiffyn iechyd pobl ac anifeiliaid ac i gefnogi iechyd anifeiliaid, milfeddygaeth, biodechnoleg a diwydiannau cysylltiedig.Mae'r Ganolfan yn cynnwys labordy Categori 3 unigryw yn ogystal ag amrywiaeth o brofion newydd eraill a bydd yn datblygu cynnyrch cysylltiedig ar gyfer clefydau anifeiliaid sy'n dod i'r amlwg o fewn y sector da byw ar hyn o bryd.
Bydd y gweithrediad yn atgyfnerthu màs critigol ymhellach o fewn ardal Tyfu Canolbarth Cymru ym meysydd sector blaenoriaeth Iechyd Anifeiliaid a Gwyddor Filfeddygol.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru
Prosiectau Uchelgeisiol a Datblygiadau Allweddol