Page 78 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 78
76
5.1 Dadansoddiad o Arolwg y Dysgwyr
5.1.1 Canfyddiadau Dysgwyr Ifanc
Er mwyn rhoi prawf ar ganfyddiadau a dyheadau dysgwyr ifanc yn y rhanbarth fe wnaeth y PDSR gynnal arolwg o 290 o ddysgwyr dros gyfnod o dri diwrnod mewn ffeiriau sgiliau amrywiol. Er mai carfan gymharol fach o ymatebwyr ydyw mewn cymhariaeth, mae'r wybodaeth hon wedi rhoi cipolwg unigryw ar deimladau dysgwyr rhwng 11 a 19 mlwydd oed.55
O'r 290 o ddysgwyr yn yr arolwg dywedodd 207 (71%) eu bod ar y pryd yn derbyn cyngor gyrfaoedd neu eu bod wedi derbyn cyngor yn y gorffennol; roedd mwyafrif helaeth y dysgwyr hyn yn 14/15 oed. Yn fwy diddorol, fe wnaeth 30% o'r 207 a dderbyniodd y cyngor hwn ei raddio'n negyddol. Ymhlith y sylwadau nodedig roedd; "Dim yn ddefnyddiol iawn", "Dim yn ysbrydoli", "Diflas", "Dim yn rheolaidd", "Rhagfarnllyd" a "Tueddu tuag at Brifysgol". Fe wnaeth 31% pellach raddio'r cyngor fel canolig, sy’n awgrymu mai 39% oedd yn ystyried y cyngor yn dda neu'n well.
At hynny, pan ofynnwyd iddynt beth oedd y gair prentisiaeth yn ei olygu iddynt, dim ond gan 53 o ddysgwyr (18%) yr oedd dealltwriaeth dda o'r hyn yw prentisiaeth. Roedd ymatebion yn cynnwys "Dysgu yn y gwaith", "Gweithio tra rydych yn dysgu", "Gwaith cyflogedig" a "Pan ydych chi'n cael eich dysgu gan weithiwr proffesiynol". Ar y llaw arall, fe wnaeth 95 o ddysgwyr (33%) ateb "Dim yn gwybod", gyda'r 51% oedd yn weddill yn ceisio ateb y cwestiwn ond yn rhoi atebion anwybodus neu anghywir gan gynnwys; "Profiad – gweithio am ddim", "Addysg sylfaenol", "Mynd i'r gwaith - mae dad yn dweud wrthyf am beidio", "Dim yn cael cyflog da iawn", "Pobl sydd ddim yn mynd i Brifysgol" a "Y Prentis – y sioe".
5.2 Data Gwiriadau Gyrfa
Mae Gwiriad Gyrfa yn rhoi 'dangosyddion' i gynghorwyr gyrfaoedd, sy’n gymorth iddynt adnabod cleientiaid sydd angen cymorth gan Gyrfa Cymru. Er enghraifft:
• cymorth gyda sgiliau rheoli gyrfa,
• cymorth i fynd i mewn i'r farchnad lafur,
• cymorth gyda ffactorau sy'n effeithio ar eu penderfyniadau a allai effeithio ar eu cynlluniau.
Mae hefyd yn rhoi dangosydd o ddyheadau gyrfa cleientiaid. Rhydd Gwiriad Gyrfa gipolwg ar y ffordd y mae'r cleient yn meddwl ar hyn o bryd ac nid yw'n becyn annibynnol. Mae'r data sydd wedi ei gynnwys yn yr adran hon yn ymwneud â sampl a gasglwyd yn 2016 ac mae wedi ei rhannu yn ôl rhanbarth economaidd y De-orllewin a Chanolbarth Cymru.
5.2.1 Y De-orllewin (Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Sir Benfro, Castell-nedd Port Talbot)56 Dengys ystyriaeth o'r data mai gyrfa yn y sector Iechyd a Meddygaeth yw'r dewis galwedigaethol mwyaf poblogaidd, gyda Hamdden, Chwaraeon, a Thwristiaeth a Pheirianneg yn dilyn. Hefyd, mynegodd nifer fawr o atebwyr ddiddordeb yn sectorau Cyfrifiaduron, Meddalwedd a TG a Gwasanaethau Brys, Diogelwch a'r Lluoedd Arfog.
Mewn cyferbyniad, y sectorau hynny oedd leiaf poblogaidd fel dewisiadau galwedigaethol yw’r sector gwasanaethau cwsmeriaid, sector gwaith gweinyddol a swyddfa a sector gweithgynhyrchu, diwydiant a gwaith ffatri.
55 Ar adeg yr arolwg hwn, maes gorchwyl Gyrfa Cymru oedd rhoi cyngor ac arweiniad diduedd ynghylch gyrfaoedd i ddisgyblion ym mlwyddyn 11 neu uwch yn unig oedd yn debygol o ddod yn NEET, ynghyd â chyfran lai o ddisgyblion oedd angen cymorth gyda phenderfyniadau gyrfaoedd. Nid oes modd gwahaniaethu oddi wrth yr atebion a roddwyd p'un a oedd yr atebwyr yn cyfeirio at wybodaeth, cyngor ac arweiniad ynghylch gyrfaoedd a roddwyd gan Gyrfa Cymru neu gan eraill o fewn rhaglen addysg gyrfaoedd yr ysgolion.
56 Roedd 6,555 o unigolion yn yr arolwg
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Dadansoddiad o’r Ymgynghoriad...