Page 79 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 79
Mynegiant o'r Cam Nesaf - Cymru Gyfan
5000 4500 4000 3500 3000 2500 2000 1500 1000 500
0
77
5.2.2 Canolbarth Cymru (Powys a Cheredigion)57
Mae'r sectorau mwyaf poblogaidd yn yr un fath â'r rhai a nodwyd yn Ne-orllewin Cymru gyda rhywfaint o amrywiad yn y drefn. Un gwahaniaeth nodedig yw poblogrwydd gofal anifeiliaid yng Nghanolbarth Cymru, gyda'r sector yn ymddangos yn sylweddol is yn y De-orllewin.
Yn debyg i Dde-orllewin Cymru, y sector lleiaf poblogaidd o ran dewis galwedigaethol cyntaf yw gwasanaethau cwsmeriaid. Dilynir hyn gan sector cludiant, cyflenwi a logisteg a'r sectorau manwerthu a gofal personol.
5.2.3 Mynegiant o'r cam nesaf yn ôl Rhyw - Cymru gyfan
Mae anghydbwysedd i'w weld rhwng y rhywiau ar draws dewisiadau gyrfa gorau myfyrwyr Blwyddyn 10. Mae hyn yn fwyaf cyffredin ar draws y sbectrwm o 'addysg barhaus' naill ai yn yr ysgol neu yn y coleg gyda'r merched yn fwy tebygol o barhau. Roedd bechgyn yn fwy tebygol o fod eisiau ymgymryd â phrentisiaeth neu chwilio am swydd ar unwaith.
Hoffwn barhau mewn addysg (ysgol)
Hoffwn barhau mewn addysg (coleg)
Gwryw
Rwy'n hoffi'r syniad o weithio a chael cymwysterau tra rwy'n gweithio (prentisiaeth)
an fyddaf yn gorffen addysg, rwyf am gael swydd. Nid yw cymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant yn wir o ddiddordeb i mi
Hoffwn gymryd blwyddyn fwlch
Benywaidd
5.2 Dadansoddiad o Arolwg y Darparwyr
5.2.1 Sefydliadau Addysg Bellach
Ymgysylltiad Dysgwyr
Mae'r sector AB yn teimlo nad yw dysgwyr yn gwneud cysylltiadau uniongyrchol rhwng cyrsiau a chyfleoedd cyflogaeth. Mae hyn o ganlyniad i'r hyn y mae darparwyr yn teimlo yw'r cyngor gyrfaoedd gwael ac weithiau unochrog a roddir i ddysgwyr yng nghamau cynharach eu dysgu. Ceir tystiolaeth i awgrymu bod hyn yn ymestyn i bwysau oddi wrth rieni i fynd ar drywydd Lefel A yn hytrach na llwybrau galwedigaethol. Dylid gwneud ymdrech bellach i wella cydraddoldeb rhwng llwybrau galwedigaethol a dysgu nad yw'n alwedigaethol, (yn enwedig ar lefel 3). Byddai sicrhau bod athrawon yn gwbl ymwybodol o'r cyfleoedd y gall dysgu galwedigaethol eu cynnig yn mynd ran o'r ffordd i wella syniadau dysgwyr a gwella ymgysylltiad y dysgwyr o bosibl.
57 Roedd 4,520 o unigolion yn yr arolwg
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Dadansoddiad o’r Ymgynghoriad...